Cyfle i ddal i fyny â’r Tîm Cynghori ar ôl gwyliau’r gaeaf

Dydd Mawrth 13-01-2026 - 11:51

 

Croeso’n ôl i chi gyd!

Sut bynnag y gwnaethoch chi ei dreulio, gobeithio eich bod chi wedi mwynhau gwyliau’r gaeaf ac yn teimlo'n barod i ddychwelyd i'ch astudiaethau. 

Beth mae ein cynghorwyr wedi bod yn ei wneud y gaeaf hwn?

Anhrefn Nadoligaidd ynghyd â digonedd o siocled poeth a chwmni da
- Sophie

 Llawer o deithiau cerdded ymysg goleuadau Nadoligaidd a phobi 
- Syd

Wedi meistroli’r grefft o chwarae ‘Articulat
- Alice

 

Yn dilyn seibiant yn ein Gwasanaeth Cynghori dros gyfnod y gaeaf, mae tîm y Gwasanaeth Cynghori’n ôl ac yn barod i gefnogi myfyrwyr.

Beth sydd gennym ni ar y gweill ar gyfer y flwyddyn newydd?

Digwyddiadau ar y campws

Yn y flwyddyn newydd, bydd ein cynghorwyr yn gweithio'n galed i sicrhau bod gan bob campws ddigwyddiad wyneb-yn-wyneb i roi cyfle i fyfyrwyr siarad â chynghorydd a deall beth all gwasanaeth cynghori Undeb y Myfyrwyr ei wneud drostyn nhw. 
‘Beth ddylwn i ei wneud os byddaf yn mynd yn sâl ac yn methu â chyflwyno fy ngwaith?'
'Nid yw’r cyfarwyddiadau ar gyfer ein haseiniad yn cyd-fynd â'r hyn a ddywedodd ein darlithydd wrthym i'w ddisgwyl'
'Dydw i ddim yn gwybod â phwy y gallaf godi problemau cwrs'

Os yw’r problemau hyn yn gyfarwydd i chi, galwch heibio am sgwrs (neu os ydych chi ond eisiau troellwr-bysedd a phecyn o love-hearts am ddim!)

Stondin dros-dro Cyhoeddi Canlyniadau Campws Birmingham 

Yn ystod yr wythnos sy’n cychwyn ar 12fed Ionawr, byddwn yn cefnogi ein myfyrwyr Birmingham yn ystod cyfnod cyhoeddi canlyniadau. 

  • Dydd Iau 15th, Ionawr 12:30 – 14:30 - Ardal Gyffredin Myfyrwyr Sparkhill 
  • Dydd Gwener 16th, Ionawr 12:30 – 14:30 - Quay Place, Ardal Gyffredin Myfyrwyr, Tŷ Louisa
  • Dydd Sadwrn 17th, Ionawr 12:30 – 14:30 - Quay Place, Ardal Gyffredin Myfyrwyr, Tŷ Louisa

Sioe Deithiol Gynghori Cymru

Byddwn yn cynnal stondin dros-dro ar bob un o'n campysau yng Nghymru 

  • Dydd Mawrth 20fed Ionawr, 11am – 2.30pm - Caerfyrddin, Cwad
  • Dydd Mercher 21ain Ionawr, 11am – 2.30pm - Abertawe, campws IQ 
  • o    Dydd Iau 22ain Ionawr, 11am – 2.30pm - Caerdydd, derbynfa Tŷ Haywood 

https://www.uwtsdunion.co.uk/articles/the-advice-roadshow

Stondin dros-dro Cyhoeddi Canlyniadau Llundain - Chwefror

Bydd ein Cynghorydd Llundain hefyd ar y campws i roi gwybodaeth a chyngor i fyfyrwyr ym mis Chwefror.

  • Dydd Mawrth 10fed Chwefror, 11am-1pm - Ystafell Gyffredin
  • Dydd Mercher 11eg Chwefror, 11am-1pm - Ystafell Gyffredin
  • Dydd Sadwrn 14eg Chwefror, 10am-1pm - Ystafell Gyffredin 

Os byddwch chi’n ein gweld ni ar unrhyw un o'n campysau ar unrhyw adeg, dewch draw i ddweud helo. Fel arfer, ni yw'r bobl mewn porffor!

Eich atgoffa o’n gwasanaeth

Rydym yn sylweddoli bod y sesiynau sefydlu amser maith yn ôl, felly isod rydym wedi rhoi trosolwg byr o'r hyn y gall eich gwasanaeth cynghori ei gynnig i chi. 

Apeliadau Academaidd 

Beth yw apêl academaidd? Sut fyddwn i'n gwybod a oes angen i mi gyflwyno un? A oes terfyn amser ar gyflwyno apêl academaidd? Mae atebion i'r holl gwestiynau hyn, a mwy, ar ein tudalen Cyngor a Graddau.

Graddau ac Apeliadau @ Undeb Myfyrwyr PCyDDS

Amgylchiadau Esgusodol

Beth ddylech chi ei wneud os ydych chi'n mynd trwy amgylchiadau annisgwyl a fydd yn cael effaith ar aseiniad sydd ar y gweill? Rydym yma i helpu â'ch tywys trwy'r broses o hysbysu'r brifysgol am eich amgylchiadau, gan gynnwys y dystiolaeth y bydd angen i chi gael gafael arni. Gallwch ddysgu mwy am amgylchiadau esgusodol a'r hyn y gallwch ei ddisgwyl o'r broses trwy'r ddolen isod. 

Amgylchiadau Esgusodol @ Undeb Myfyrwyr PCyDDS

Camymddwyn Academaidd 
Os oes rhywbeth wedi mynd o'i le ar ddarn o waith ac rydych wedi derbyn hysbysiad o gamymddwyn academaidd, gallwch gysylltu â ni i gael cyngor ar y camau nesaf yn y broses. Gallwch ddysgu mwy trwy'r dudalen we isod

Cyfeirnodi a Chamymddwyn @ Undeb Myfyrwyr PCyDDS

I ddod o hyd i'r rhestr lawn o bynciau y gallwn gynnig cymorth i’w datrys, ewch i'n tudalen we Cyngor @PCyDDS Cyngor @ Undeb Myfyrwyr PCyDDS

Oes rhywbeth nad ydym wedi'i drafod neu'n dal yn ansicr am broses? Anfonwch e-bost atom yn unionadvice@uwtsd.ac.uk

Awgrymiadau gan y Tîm

Gyda'r dyddiau'n oeri a'r nosweithiau'n mynd yn hirach, nid yw'n anghyffredin i bobl ei chael yn anodd ymdopi. Dyma ychydig o gyngor gan ein staff ynglŷn â'r hyn sy'n eu helpu i ddal ati trwy'r gaeaf wrth i ni aros i'r gwanwyn gyrraedd.

Rydw i bob amser yn ceisio mynd am dro tra mae hi'n dal yn olau ac yna dydy'r tywyllwch ddim yn teimlo mor ormesol, ond mae ychwanegu goleuadau bach meddal hefyd yn helpu.
- Syd

'Mae bob amser yn dda ceisio cael rhywbeth i edrych ymlaen ato, a'r gaeaf yw'r tymor pan mae pobl yn gwisgo cotiau bach am eu cŵn bach. Pwy sydd ddim yn caru ci mewn côt?
- Alice

Buddsoddwch mewn popty araf - mae'n caniatáu i chi ddod adref i brydau poeth a blasus heb fawr o ymdrech!
- Sophie

dewch o hyd i bethau sy’n rhoi cysur i chi, a gwnewch y mwyaf ohonyn nhw! Blanced glyd, te neu goco yn eich hoff fwg, llyfrau neu ffilmiau i'w mwyhau dro ar ôl tro!
- Geri

mae blas Nadoligaidd ar chai lattes
- Becky

Fitamin D a brechdan bacwn
- Simon

archwiliwch glybiau lleol, unrhyw beth o hobïau i grwpiau cymdeithasol. Maen nhw’n fwy na dim ond tipyn o hwyl; maen nhw fel arfer yn darparu byrbrydau hefyd 
- Kiera

Gwnewch yn siŵr bod gennych chi gornel sy'n gynnes, yn glyd, gyda golau meddal i eistedd ac ymarfer crefft neu chwarae gêm.' Hefyd, cawl cartref!
- Amber

Blanced gynhesu a gwylio fideos Sims 4 build
- Oliwia

Categorïau:

Departments

Tagiau perthnasol :

Rhagor o erthyglau Undeb Myfyrwyr Y Drindod Dewi Sant

Rhagor o erthyglau...