Ni yw eich Undeb Myfyrwyr, ac mae ein Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol (CCB) yn gyfarfod unwaith-y-flwyddyn pwysig y mae croeso i holl fyfyrwyr PCyDDS ei fynychu. Fe’i cynhelir ddydd Mawrth 2il Rhagfyr 2025 am 15:00; dyma beth sydd ar y gweill:
Cynhelir y digwyddiad ar-lein trwy Microsoft Teams ddydd Mawrth 2il Rhagfyr am 15:00.
Syniad a gyflwynir gan fyfyrwyr yw cynnig, sy'n cael ei drafod yn y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol am gyfle i ddod yn bolisi’r Undeb. I gyflwyno syniad, mae angen i chi gwblhau'r ffurflen gynigion ar-lein a chael myfyriwr arall i eilio eich syniad - y terfyn amser yw 12:00 dydd Gwener 28ain Tachwedd 2025.
Bydd yr holl ddogfennau ar gael o 17:00 ddydd Mawrth 26 Tachwedd 2025.
Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau ynghylch y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol, anfonwch e-bost at studentvoice@uwtsd.ac.uk.