Mae Llyfrgell PCyDDS yn chwilio am nifer fach o fyfyrwyr a all dreulio rhywfaint o amser yn rhannu eu syniadau a’u profiadau o ddefnyddio’r holl wasanaethau y mae’r llyfrgell yn eu darparu. Boed hynny’n eu defnyddio fel mannau astudio, cyrchu adnoddau mewn print neu ddigidol, neu’n cael cymorth gyda sgiliau, mae’r llyfrgell yn awyddus i glywed gennych.
Rydym yn chwilio am 8 gwirfoddolwr a all sbario tua 60-90 munud yn ystod wythnos 23ain Ionawr (manylion i'w pennu) ar gyfer rhag-gyfarfod, ac awr yn ystod wythnos 30 i gwrdd ag aseswyr allanol i gael eich barn am y gwasanaethau llyfrgell.
Am hyn, byddwch yn derbyn taleb Amazon gwerth £50.
Os oes gennych chi ddiddordeb, anfonwch e-bost studentvoice@uwtsd.ac.uk!