Mynychwch Ffair y Glas

Mynychwch Ffair y Glas

Cyfle i gyrraedd myfyrwyr trwy ddod yn stondinwr yn Ffair y Glas

Cysylltwch â myfyrwyr - ydych chi'n bwriadu tyfu eich busnes, cysylltu â chynulleidfaoedd newydd, a chynyddu ymwybyddiaeth o’ch brand? Ystyriwch ddod yn stondinwr yn ein Ffeiriau’r Glas lle cewch gyfle i gysylltu â myfyrwyr newydd a myfyrwyr sy'n dychwelyd i PCyDDS.

Ar gyfer busnesau o bob maint - p'un a ydych chi'n fusnes newydd, yn fusnes cenedlaethol, neu'n elusen, mae dod yn stondinwr yn un o'r ffyrdd mwyaf fforddiadwy o gael eich sylwi gan fyfyrwyr - gallwch gysylltu â nhw wyneb-yn-wyneb mewn lleoliad bywiog, lle mae yna nifer fawr o ymwelwyr.

Prisiau ar gyfer pob cyllideb - mae ein pecynnau stondinwyr wedi'u prisio'n gystadleuol ar gyfer busnesau o bob maint, o fusnesau newydd i frandiau cenedlaethol. Ac os ydych chi'n fusnes bach neu'n elusen sydd wedi'i lleoli’n agor i un o'n campysau, byddwch chi'n derbyn cyfraddau gostyngedig arbennig.

Dyddiad ar gyfer 2025 - Rydym yn derbyn archebion gan stondinwyr ar gyfer ein Ffeiriau’r Glas yng Nghaerfyrddin ac Abertawe - mae’r naill a’r llall yn cael eu cynnal ddydd Llun 22ain Medi 2025.

Oes gennych chi ddiddordeb mewn mynychu? Os oes gennych chi ddiddordeb mewn mynychu, llenwch ein ffurflen ymholiad a bydd aelod o'r tîm yn cysylltu'n ôl â chi. Mae croeso i chi gysylltu â ni yn union@uwtsd.ac.uk os oes gennych chi unrhyw gwestiynau. 

Gwnewch Eich Ymholiad


Dyddiadau Ffeiriau’r Glas

  • Caerfyrddin

    Dydd Llun 22ain Medi 
    Adeilad Undeb y Myfyrwyr
  • Abertawe

    Dydd Llun 22ain Medi 
    Canolfan Dylan Thomas

Pam archebu stondin?

Dau Leoliad Prysur

Eleni rydym yn cynnal ffeiriau ar gyfer myfyrwyr newydd ar ein campysau yng Nghaerfyrddin ac Abertawe.

Ymgysylltiad Uniongyrchol â Myfyrwyr

Does dim byd yn curo dod i adnabod rhywun wyneb-yn-wyneb - cewch rannu eich stori, meithrin teyrngarwch a chael adborth ar unwaith gan ein cymuned myfyrwyr.

Pris Fforddiadwy

Mae ein pecynnau wedi'u prisio'n gystadleuol ar gyfer busnesau o bob maint, o fusnesau newydd i frandiau cenedlaethol.


Beth Sy'n Gwneud hyn yn Werth-chweil?

  1. Cyfle i gysylltu â channoedd o fyfyrwyr mewn un diwrnod
  2. Cyfle i hybu ymwybyddiaeth o'ch brand
  3. Cyfle i hyrwyddo gwasanaethau yn y fan a'r lle
  4. Adeiladu eich rhestr ohebiaeth a'ch dilynwyr ar gyfryngau cymdeithasol
  5. Cyfle i gysylltu â myfyrwyr PCyDDS

Awgrymiadau i Stondinwyr

P'un a ydych chi eisoes wedi archebu fel stondinwr neu'n ystyried cymryd rhan, rydym wedi llunio rhai awgrymiadau defnyddiol i wneud y gorau o'r diwrnod.

Pethau i ddod gyda chi 
  • Deunyddiau hyrwyddo (taflenni, posteri, cardiau busnes).
  • Rhoddion a nwyddau am ddim (mae myfyrwyr wrth eu bodd â phethau defnyddiol am ddim!). 
  • Taflenni cofrestru neu dabled ar gyfer casglu manylion cyswllt.
  • Lliain-bwrdd neu faner wedi'i brandio i wneud i'ch stondin sefyll allan. 
  • Ceblau estyniad a gwefrwyr os ydych chi'n defnyddio dyfeisiau electronig - nodwch na allwn warantu pŵer ar gyfer pob stondin.
  • Dewch â lluniaeth gyda chi.
Byddwch yn barod i dynnu sylw 
  • Defnyddiwch liwiau beiddgar, arwyddion clir ac arddangosfeydd rhyngweithiol. 
  • Ystyriwch ddefnyddio baneri i wneud eich stondin yn weladwy o bell. 
Byddwch yn gyfeillgar
  • Cofiwch wenu a chyfarch y myfyrwyr wrth iddyn nhw gerdded heibio. 
  • Dylech osgoi eistedd y tu ôl i'ch bwrdd - sefwch ac ymgysylltwch. 
Cynigiwch gymhellion
  • Mae myfyrwyr wrth eu bodd â rhoddion am ddim - mae deunyddiau ysgrifennu â brand, bagiau tôt, byrbrydau, neu raffl lle gallwch ennill gwobrau’n gweithio'n dda. 
  • Os ydych chi'n casglu manylion cyswllt, cynigiwch gymhelliant (e.e. “Cofrestrwch am gyfle i ennill!”) - gwnewch yn siŵr eich bod yn cydymffurfio â GDPR. 
Byddwch yn ddigidol, byddwch yn berthnasol
  • Os ydych chi'n casglu cofrestriadau, defnyddiwch gôd QR ar gyfer dolenni cyfryngau cymdeithasol neu gofrestriadau ar gyfer rhestr ohebiaeth.
  • Addaswch eich cyflwyniad i anghenion a diddordebau myfyrwyr. 
  • Amlygwch fuddion fel gostyngiadau, cyfleoedd gyrfa, neu ddigwyddiadau hwyliog.