Rydyn ni’n cynnig cefnogaeth i fyfyrwyr yn ystod yr Argyfwng Costau Byw. Ynghyd â’r Brifysgol, rydym yn gweithio’n galed i gefnogi myfyrwyr wrth i gostau byw gynyddu – gan gynnwys bwyd, teithio, rhent a chyfleustodau.
Rydym wedi creu ein hyb Costau Byw i'ch helpu i ddod o hyd i gynhaliaeth a chael gwybod am ddatblygiadau. Rydym yn ymdrin â ffyrdd o gael mynediad at gymorth ariannol, ble i ddod o hyd i gyngor, a ffyrdd eraill rydym yn cefnogi ac yn cynrychioli myfyrwyr.
Os oes gennych chi gwestiynau neu os oes angen help arnoch chi, gallwch gysylltu â ni unrhyw bryd union@uwtsd.ac.uk.
Mae eich Undeb wedi ymrwymo i helpu myfyrwyr PCyDDS drwy’r Argyfwng Costau Byw. Rydym yn gwrando ar eich adborth a’ch syniadau, yn gweithio gyda’r Brifysgol, ac yn ymgyrchu gyda’n Llywodraethau i helpu sicrhau bod cymorth yno pan fyddwch chi ei angen.
![]()
Vanessa, Taya, a Bronwyn
Tîm Swyddogion Sabothol 2022/23
Dyma adnoddau defnyddiol i'ch helpu i gael mynediad at gyngor, cymorth ariannol a gwasanaeth i'ch helpu. Rydym hefyd wedi cynnwys gwybodaeth bwysig am wasanaethau a phrosiectau a all fod o gymorth.
Ben Lake has given us a template letter that the Government has made to help student tenants who believe they are entitled to support with their energy bill. This letter can be sent to your landlord.
Gall myfyrwyr gael gafael ar fwrsariaethau yn uniongyrchol gan y Brifysgol i helpu gyda chostau byw. Mae yna sawl math gwahanol; gallwch chi ddod o hyd i restr ohonyn nhw i gyd ar wefan y Brifysgol.
Gyda chostau bob-dydd yn cynyddu, mae dysgu sut i gyllidebu a rheoli eich arian yn bwysicach nag erioed. Gallwch ddod o hyd i gyngor defnyddiol ar wefan y Brifysgol.
Rydyn ni wedi llunio rhestr o elusennau sy’n darparu cyngor a chymorth defnyddiol.
Gallwch gael powlen o gawl i’ch cynhesu a rhôl fara am ddim ond £1 o ffreuturau'r Brifysgol.
Mae hybiau bwyd yn rhoi cyfle i fyfyrwyr gael gafael ar fwydydd ar gyfer eu cwpwrdd - gallwch chi helpu eich hun i unrhyw fwyd sydd ei angen arnoch chi. Gallwch hefyd gyfrannu eitemau i’r hyb bwyd i helpu cyd-fyfyrwyr sydd mewn tipyn o angen.
Lleoliadau Hybiau Bwyd
Campws Caerdydd
Ardal Argraffu Myfyrwyr, Tŷ Hayward
Campws Caerfyrddin
CWAD
Campws Llambed
Ystafell Gyfrifiaduron Las
Campws Abertawe
IQ, 2il Lawr
Campws Busnes Abertawe,
3ydd Llawr Dinefwr, Stiwdio Griffith
Mae’r Brifysgol wedi cytuno i rewi rhenti ar gyfer yr holl lety myfyrwyr sy’n eiddo i’r Brifysgol ar gyfer 2023/24 – mae hyn yn golygu y bydd rhent y flwyddyn nesaf yr un fath ag eleni.
Yn ystod y tymor cyntaf yn unig, rydym wedi cynnal dros 30 o ddigwyddiadau Rhowch Gynnig Arni ar draws holl gampysau PCyDDS. Rydyn ni eisiau i fyfyrwyr gael profiadau anhygoel, gwneud ffrindiau newydd, a theimlo'n gysylltiedig â'u campws - dyna pam rydyn ni wedi lansio rhaglen Rhowch Gynnig Arni gyda llawer o ddigwyddiadau cyffrous a rhad (gyda rhai am ddim hefyd).
Gallwch edrych ar dudalen we Rhowch Gynnig Arni am ddigwyddiadau sydd ar y gweill, ynghyd â’r holl fanylion.
Y tymor hwn yn unig, rydym wedi rhoi gwerth dros £2,000 o de, coffi, cacennau a byrbrydau i fyfyrwyr yn ein Hundebau Dros-dro ar draws ein holl gampysau.
Rydym yn cynnal 21 o ddigwyddiadau am ddim i fyfyrwyr eu mwynhau ar draws ein holl gampysau i nodi deucanmlwyddiant PCyDDS.
Gall ein clybiau a chymdeithasau gael grantiau hyd at £500 i helpu gyda chostau gweithgareddau, teithiau, offer, hyrwyddo a mwy.
Rydym yn cefnogi myfyrwyr hyd orau ein gallu, ond mae angen i’n Llywodraethau weithredu mewn ffordd ystyrlon. Dyna pam mae Llywyddion eich Undeb wedi ysgrifennu at Aelodau Seneddol ac Aelodau Senedd Cymru ar eich rhan.
Rydyn ni wedi lansio dros 30 o interniaethau â thâl - dyma'r mwyaf rydyn ni erioed wedi'u cynnal! Bydd interniaid a benodir yn derbyn bwrsariaeth o £1,000 am 10 -15 awr o waith y mis.
Mae ein holl interniaethau a swyddi myfyrwyr yn cael eu talu yn unol â'r Cyflog Byw Gwirioneddol.
Dyma'r newyddion diweddaf gan yr Undeb am yr holl bethau sy’n ymwneud â Chostau Byw.
Gyda’i gilydd, mae’r Undeb a'r Brifysgol yn gweithio’n galed i roi cymorth i fyfyrwyr. Dyma’r amser i’n Llywodraethau gymryd camau cyflym ac ystyrlon i gefnogi myfyrwyr drwy’r Argyfwng Costau Byw. Rydym wedi ysgrifennu at Aelodau Seneddol yn San Steffan ac Aelodau Senedd Cymru, yn gofyn iddynt gynnig cymorth ychwanegol.
Mae ymchwil costau byw gan UCM yn dweud wrthym fod bron i draean y myfyrwyr a holwyd yn gorfod byw ar ddim ond £50 y mis ar ôl talu eu rhent a'u biliau - gyda 52% o fyfyrwyr yn gwario llai ar fwyd a doedd 68% ddim yn gallu fforddio deunyddiau ar gyfer eu cwrs mwyach. Gallwch lofnodi ymgyrch UCM wrth iddynt ofyn i'r Llywodraeth am gymorth wedi'i deilwra’n benodol ar gyfer myfyrwyr.
Ydych chi am ysgrifennu at eich AS eich hun? Gallwch ddefnyddio ffurflen ar-lein am ddim gan UCM i ddod o hyd i'ch AS yn gyflym ac anfon e-bost atyn nhw (mae yna hyd yn oed dempled i chi ei ddefnyddio).