Fel rhan o Wythnos y Glas eleni, sydd â thema’r gofod, ymunwch â'r Gymdeithas Ffilm am noson ffilmiau anhygoel! P'un a ydych chi wrth eich bodd â ffuglen wyddonol neu ddim ond eisiau cwrdd â phobl newydd, dyma'r cyfle perffaith i ymlacio, bachu rhywbeth bach i’w fwyta, a mwynhau ffilm gyda chyd-fyfyrwyr.
Mae Hail Mary yn dilyn gofodwr unig ar daith beryglus i achub dynoliaeth ar ôl i fygythiad dirgel ddechrau effeithio ar yr Haul. Gan gyfuno gwyddoniaeth, hiwmor ac antur ryngserol, mae'n stori gyffrous am oroesi, cyfeillgarwch a phŵer dyfeisgarwch dynol.
Does dim angen gwybodaeth am ffilmiau - dewch draw, gwnewch eich hun yn gartrefol, a mwynhewch y daith drwy'r sêr.
Os ydych chi'n mwynhau, yna efallai y byddech chi’n ystyried ymuno â'r Gymdeithas Ffilm yn ystod eich amser yn y brifysgol; maen nhw'n cwrdd yn rheolaidd ac yn grŵp myfyrwyr llwyddiannus yma yn Abertawe.
Archebwch eich tocyn nawr ac fe welwn ni chi yno!
Hygyrchedd:
• Mae Theatr Dylan Thomas wedi'i lleoli yng Nghanolfan Dylan Thomas; mae'r theatr ei hun ar y llawr cyntaf a gellir cael mynediad drwy ddefnyddio'r grisiau neu lifft.
• Mae lle ym mlaen y theatr sy'n gallu darparu ar gyfer cadeiriau olwyn/offer symudedd.
• Byddwn yn darparu rhai byrbrydau fel popcorn; os byddwch chi’n rhoi gwybod i ni am unrhyw ofynion dietegol penodol, yna efallai y byddwn yn gallu darparu rhywbeth arall ar eich cyfer chi.
• Gallwch ddod â'ch diod eich hun ond dylech osgoi alcohol a photeli heb gaeadau os gwelwch yn dda; gofynnir i unrhyw un sy'n ymddwyn mewn ffordd a ystyrir yn amhriodol neu'n aflonyddgar adael.
Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau ynglŷn â mynediad i'r lleoliad neu unrhyw beth arall, mae croeso i chi gysylltu â SU.Opps@uwtsd.ac.uk.
Lleoliad : Dylan Thomas Theatre, Dylan Thomas Centre
Math: Glasfyfyrwyr, Glasfyfyrwyr Abertawe , Abertawe
Dyddiad dechrau: Dydd Mercher 23-09-2026 - 16:00
Dyddiad gorffen: Dydd Mercher 23-09-2026 - 21:00
Rebecca
su.opps@uwtsd.ac.uk
Clic yma i weld y telerau ac amodau
Mae lleoedd yn gyfyngedig ar gyfer rhai digwyddiadau. Os oes botwm Archebwch Nawr yn ymddangos o fewn y disgrifiad, mae'n rhaid i chi gofrestru cyn y gallwch fynychu. Ar gyfer y digwyddiadau hyn, archebwch le dim ond os ydych chi'n gwybod y gallwch chi fod yn bresennol. Gallwch hefyd roi gwybod i ni os na allwch fynychu fel y gallwn gynnig eich lle i rywun arall.
Ni ellir ad-dalu cost tocynnau ar gyfer digwyddiad a ffioedd archebu, oni bai;
Eich bod yn rhoi o leiaf deg diwrnod gwaith o rybudd i ni
Rydym yn gohirio neu’n canslo'r digwyddiad.
Cysylltwch â ni yn union@uwtsd.ac.uk i drafod eich archeb.
Mae’n bosibl y bydd ffotograffau a fideos yn cael eu cymryd yn ein digwyddiadau. Trwy archebu lle yn ein digwyddiad, rydych yn rhoi hawliau llawn i ni (Undeb Myfyrwyr PCyDDS) ddefnyddio’r delweddau sy’n deillio o hynny. Os nad ydych yn dymuno cael eich llun wedi’i dynnu, rhowch wybod i ni trwy gysylltu neu siarad â'r ffotograffydd ar y safle.
Gallwch weld ein hysbysiad preifatrwydd yn llawn ar ein gwefan.