Dewch i ymuno â ni ar ôl ein Ffair y Glas am brynhawn gweithgareddau llawn hwyl yn Adeilad Undeb y Myfyrwyr! Beth am fwrw golwg ar y rhestr gweithgareddau isod?
1pm-1:30pm a 2-2:30pm – Darlunio gyda Dafydd y Ddraig! Bydd Dafydd yn sefyll yn llonydd, a bydd gennych chi 30 munud i gipio’r ddelwedd mewn unrhyw gyfrwng a fynnwch! Bydd Dafydd yn dewis y campwaith celfyddydol buddugol am 1.30pm a bydd gennych chi siawns i ennill taleb Amazon gwerth £10!
1-1:30pm a 2-2:30pm – Diwrnod Mabolgampau’r Ysgol! Ymunwch â ni ar gyfer y ras Ŵy ar Lwy; os ydych chi’n gollwng eich ŵy, bydd rhaid i chi fynd yn ôl i'r dechrau! Bydd y cyflymaf i’r llinell derfyn yn ennill taleb Amazon gwerth £10
1-3pm – Dewch i gwrdd â’ch Clybiau a’ch Cymdeithasau ar y Campws! Awydd cael sgwrs â rhai o glybiau a chymdeithasau ein campws? Ymunwch â nhw yn Y Llofft ac ymunwch â'u grwpiau!
1-3pm – Gwneud Bathodynnau! Oes gennych chi linyn-gwddf, ac angen bathodyn? Mae gennym ni’r union beth i chi!! Dewch draw i greu eich bathodyn personol eich hun mewn unrhyw arddull a fynnwch… atgof o’ch diwrnod cyntaf yn y Brifysgol!
1-3pm – Profwch eich Sgiliau Pêl-droed gyda'n targed! Dewch i roi cynnig ar ein targed Pêl-droed - 3 pêl, a bydd y sgôr cyffredinol uchaf yn ennill Hwdi! Dewch yn ôl am 3pm i weld pwy enillodd!!
Lleoliad : Carmarthen SU
Math: Caerfyrddin, Glasfyfyrwyr, Glasfyfyrwyr Caerfyrddin
Dyddiad dechrau: Dydd Llun 21-09-2026 - 13:00
Dyddiad gorffen: Dydd Llun 21-09-2026 - 15:00
Nifer y lleoedd: 100
SU Opportunities
SU.Opps@uwtsd.ac.uk
Clic yma i weld y telerau ac amodau
Mae lleoedd yn gyfyngedig ar gyfer rhai digwyddiadau. Os oes botwm Archebwch Nawr yn ymddangos o fewn y disgrifiad, mae'n rhaid i chi gofrestru cyn y gallwch fynychu. Ar gyfer y digwyddiadau hyn, archebwch le dim ond os ydych chi'n gwybod y gallwch chi fod yn bresennol. Gallwch hefyd roi gwybod i ni os na allwch fynychu fel y gallwn gynnig eich lle i rywun arall.
Ni ellir ad-dalu cost tocynnau ar gyfer digwyddiad a ffioedd archebu, oni bai;
Eich bod yn rhoi o leiaf deg diwrnod gwaith o rybudd i ni
Rydym yn gohirio neu’n canslo'r digwyddiad.
Cysylltwch â ni yn union@uwtsd.ac.uk i drafod eich archeb.
Mae’n bosibl y bydd ffotograffau a fideos yn cael eu cymryd yn ein digwyddiadau. Trwy archebu lle yn ein digwyddiad, rydych yn rhoi hawliau llawn i ni (Undeb Myfyrwyr PCyDDS) ddefnyddio’r delweddau sy’n deillio o hynny. Os nad ydych yn dymuno cael eich llun wedi’i dynnu, rhowch wybod i ni trwy gysylltu neu siarad â'r ffotograffydd ar y safle.
Gallwch weld ein hysbysiad preifatrwydd yn llawn ar ein gwefan.