Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol (CCB) 2025/26

  • Agm asset  event thumbnail

Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol (CCB) 2025/26

Ni yw eich Undeb Myfyrwyr, ac mae ein Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol (CCB) yn gyfarfod unwaith-y-flwyddyn pwysig y mae croeso i holl fyfyrwyr PCyDDS ei fynychu. Fe’i cynhelir ddydd Mawrth 2il Rhagfyr 2025 am 15:00; dyma beth sydd ar y gweill:

  • Byddwn yn cyflwyno adolygiad o'r hyn a gyflawnwyd yn ystod y flwyddyn academaidd ddiwethaf
  • Mae gennych chi gyfle i adolygu a phleidleisio ar syniadau a gyflwynwyd gan fyfyrwyr a elwir yn gynigion - a gallwch gyflwyno cynnig trwy ein ffurflen gynigion ar-lein
  • Pleidleisio ar ein Hymaelodaethau
  • Pleidleisio ar Is-ddeddfau
  • Adolygu ein cyllideb
     

Cynhelir y digwyddiad ar-lein trwy Microsoft Teams ddydd Mawrth 2il Rhagfyr am 15:00.

Cyflwyno'ch cynnig

Syniad a gyflwynir gan fyfyrwyr yw cynnig, sy'n cael ei drafod yn y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol am gyfle i ddod yn bolisi’r Undeb. I gyflwyno syniad, mae angen i chi gwblhau'r ffurflen gynigion ar-lein a chael myfyriwr arall i eilio eich syniad - y terfyn amser yw 12:00 dydd Gwener 28ain Tachwedd 2025.

Ffurflen Gynigion Ar-lein

Dogfennau

Bydd yr holl ddogfennau ar gael o 17:00 ddydd Mawrth 26 Tachwedd 2025.

  1. Agenda Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol 2025 (.docx)
  2. Cyfiawnhad am Is-ddeddfau (.pdf)
  3. Cyfrifon wedi’u Harchwilio hyd at fis Gorffennaf 2025 (.docx)
  4. Adroddiad Swyddog Sabothol: Llywydd Birmingham a Llundain (.docx)
  5. Adroddiad Swyddog Sabothol: Llywydd Caerfyrddin (.docx)
  6. Adroddiad Swyddog Sabothol: Llywydd Caerdydd ac Abertawe (.docx)
  7. Adroddiad Etholiadau 2025 (.docx)

Cwestiynau

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau ynghylch y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol, anfonwch e-bost at studentvoice@uwtsd.ac.uk.

Lleoliad/Amser

Lleoliad : Online via Microsoft Teams

Math: Birmingham, Caerdydd, Caerfyrddin, Llambed, Llundain, Llais Myfyrwyr, Abertawe

Dyddiad dechrau: Dydd Mawrth 02-12-2025 - 15:00

Dyddiad gorffen: Dydd Mawrth 02-12-2025 - 16:00

Manylion cyswllt

studentvoice@uwtsd.ac.uk

studentvoice@uwtsd.ac.uk

Telerau ac amodau

Clic yma i weld y telerau ac amodau