Noson Bar

  • Freshers event thumbnails14
  • Noson Bar Y Llofft, UWTSD Students' Union, Carmarthen Dydd Iau 25-09-2025 - 20:00 tan Dydd Iau 25-09-2025 - 23:30

Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben neu nid yw'r digwyddiad bellach ar gael.

Noson Bar

Mae hon yn noson hamddenol i'ch helpu i gynefino â bywyd yn y brifysgol. Y Llofft yw eich ystafell gyffredin a bar i fyfyrwyr. Dewch draw; cewch gwrdd â chyd-fyfyrwyr, a mwynhau noson hamddenol wrth i chi ymgartrefu.

Mae yna lwyth o bethau i'w mwynhau;

  • Bwrdd Pŵl am ddim
  • Tenis Bwrdd am ddim
  • Teledu gyda Netflix ac Amazon Prime
  • Sony PS5 gyda gemau
  • Nintendo Wii gyda gemau
  • Detholiad o lyfrau, gemau bwrdd a ffilmiau

Mynychu ein digwyddiad

Digwyddiad am ddim yw hwn - does dim tocynnau - dewch draw a mwynhewch.

Er gwybodaeth

Mae yna ddigonedd o fyrddau bach a mawr yn y Llofft, yn ogystal â seddi a soffas mawr cyfforddus - perffaith ar gyfer ymlacio, dal i fyny â ffrindiau, a phan fydd grwpiau mawr o bobl am ddod ynghyd. Mae yna hefyd Deledu Clyfar, PS5, gemau bwrdd, bwrdd pŵl, a diodydd rhad i chi eu mwynhau gyda ffrindiau!

Hygyrchedd

  1. Mae’r Llofft wedi'i lleoli ar y llawr cyntaf, ac mae modd cyrraedd yno gan ddefnyddio’r grisiau (tuag 20 ohonyn nhw) a lifft. Mae’r llawr i gyd yn wastad.
  2. Mae toiledau ar y llawr gwaelod, gan gynnwys toiled i'r anabl gyda chyfleusterau newid cewynnau. 
  3. Mae goleuadau da ar draws y lleoliad.

Lleoliad/Amser

Lleoliad : Y Llofft, UWTSD Students' Union, Carmarthen

Math: Caerfyrddin, Glasfyfyrwyr, Glasfyfyrwyr Caerfyrddin , Y Clwb a Y Llofft

Dyddiad dechrau: Dydd Iau 25-09-2025 - 20:00

Dyddiad gorffen: Dydd Iau 25-09-2025 - 23:30

Manylion cyswllt

Students' Union

union@uwtsd.ac.uk

Telerau ac amodau

Clic yma i weld y telerau ac amodau