Bod yn Wylwyr Gweithredol!

  • Online training icon

Bod yn Wylwyr Gweithredol!

Pryd: Dydd Llun 26ain o Ionawr:
Amser: 12pm tan 2pm 
Ble: Fe’i cynhelir ar-lein ar Teams


Pam cymryd rhan mewn Hyfforddiant Rhagfarn ac Ymyriad Gwyliedydd Gweithredol?


Mae bywyd prifysgol yn eich rhoi mewn mannau a rennir bob dydd - darlithoedd, gwaith grŵp, lleoliadau gwaith, preswylfeydd, digwyddiadau cymdeithasol. Yn y mannau hyn, mae myfyrwyr yn aml yn dyst i sylwadau rhagfarnllyd, allgau, aflonyddu, neu ymddygiad sy'n teimlo'n anghyfforddus. Mae llawer o bobl eisiau helpu, ond dydyn nhw ddim yn ymyrryd oherwydd eu bod nhw'n ansicr beth i'w ddweud, yn poeni am waethygu’r sefyllfa, neu ddim yn gwybod pa gefnogaeth sydd ar gael.


Mae'r hyfforddiant hwn wedi'i gynllunio ar gyfer yr union adegau hynny.


Wedi'i gyflwyno gan dîm Llesiant y Brifysgol, bydd yr hyfforddiant hwn yn eich helpu i archwilio achosion ac effeithiau rhagfarn, dysgu strategaethau diogel ac effeithiol i herio ymddygiadau camwahaniaethol, a meithrin hyder wrth ymateb i sefyllfaoedd anodd. Bydd y sesiwn hon hefyd yn tynnu sylw at sut mae'r ymagwedd Gwyliedydd Gweithredol yn cyd-fynd â gweithdrefnau'r Brifysgol i feithrin cymuned fwy cynhwysol a chefnogol. 


Sut fyddwch chi’n elwa?


• Hyder mewn sefyllfaoedd bywyd go iawn 
• Sgiliau ymarferol a dod i wybod beth i'w wneud 
• Gallu helpu eich hun ac eraill trwy wybod beth yw eich dewisiadau 
• Meithrin cysylltiadau cryfach â chyfoedion yn y brifysgol 
• Datblygu sgiliau personol a phroffesiynol - gellir trosglwyddo'r rhain ar gyfer cyfleoedd am swyddi yn y dyfodol


Nid oes angen gwybodaeth na phrofiad blaenorol arnoch chi - dim ond parodrwydd i ddysgu a datblygu.


Cofrestrwch i gael eich gwahodd i'r ddolen Teams, bydd y sesiwn hon ar-lein rhwng 12pm a 2pm, a bydd yna egwyl fer. 


Edrychwn ymlaen at eich gweld chi!
 

Lleoliad/Amser

Lleoliad : Teams, Online

Math: Rhowch Gynnig Arni, Rhowch Gynnig Arni Abertawe, Abertawe

Dyddiad dechrau: Dydd Llun 26-01-2026 - 12:00

Dyddiad gorffen: Dydd Llun 26-01-2026 - 14:00

Manylion cyswllt

Rebecca

suopportunities@uwtsd.ac.uk

Telerau ac amodau

Clic yma i weld y telerau ac amodau