Brook Weminar: Cydsyniad a Pherthnasoedd Iach (2 Rhagfyr)

  • Brook square

Mae'r digwyddiad hwn wedi'i ohirio.

Brook Weminar: Cydsyniad a Pherthnasoedd Iach (2 Rhagfyr)

Mae Undeb Myfyrwyr PCyDDS, Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant a Brook yn falch o fod yn gweithio gyda'i gilydd i gyflwyno cyfres o weminarau ar iechyd rhywiol. Y bartneriaeth hon yw'r gyntaf o'i bath yng Nghymru, ac rydym yn teimlo’n gyffrous o fod yn gallu rhoi'r cyfle hwn i fyfyrwyr. Dim ond y cam cyntaf yw'r gweminarau hyn! Byddwn yn gweithio gyda'n gilydd ar fodiwl sydd ar gael i'r holl fyfyrwyr.
Cynhelir amrywiaeth o weminarau ar y canlynol: Cydsyniad a Pherthnasoedd Iach; (Secstio) Delweddu Rhywiol a Gynhyrchir gan Bobl Ifanc; Cyffuriau ac Alcohol; Amrywioldeb LHDT a Bwlio HBT; Pleser. Byddant yn cael eu hailadrodd trwy gydol y semester cyntaf; os byddant yn boblogaidd, byddwn yn cynnal mwy.
Mae'r weminar hon ar:

  • Cydsyniad a Pherthnasoedd Iach

Bydd angen i chi gofrestru er mwyn i ni anfon gwahoddiad Zoom atoch; ni chaiff unrhyw fanylion eu rhannu â Brook nac unrhyw un arall. Yr unig ddiben yw galluogi undeb y myfyrwyr i rannu'r ddolen gyda chi.
 
Beth yw Brook?
Y gwir amdani yw bod stigma cymdeithasol yn cyfyngu ar allu pobl ifanc i reoli eu hiechyd rhywiol, mwynhau perthnasoedd iach ac archwilio eu hunaniaeth. 
Mae Brook wedi ymrwymo i newid agweddau, herio rhagfarnau a hyrwyddo cydraddoldeb fel y gall pob person ifanc fyw bywydau hapus ac iach.
 

Ewch i brook.org.uk

Lleoliad/Amser

Lleoliad : Zoom link - register to receive the link

Math: Birmingham, Birmingham, Caerdydd, Caerfyrddin, Llambed, London, Ar-lein, Abertawe

Dyddiad dechrau: Dydd Mercher 02-12-2020 - 15:45

Dyddiad gorffen: Dydd Mercher 02-12-2020 - 17:00

Manylion cyswllt

union@uwtsd.ac.uk

Telerau ac amodau

Clic yma i weld y telerau ac amodau