Dathlwch ddiwedd y flwyddyn mewn steil gyda bwyd da, cwmni gwych, ac ambell brofiad bythgofiadwy. Gwisgwch i greu argraff ac ymunwch â'ch cyd-fyfyrwyr ar gyfer Dawns Haf Caerdydd 2026, gyda bwffé blasus (darnau bach o hyn a’r llall) a llun polaroid i gofio'r digwyddiad!
Mae tocynnau yn £15 yr un, a gall myfyrwyr brynu un tocyn ychwanegol ar gyfer gwestai. Bydd gwerthiant tocynnau’n dod i ben am 19:00 ar ddiwrnod y digwyddiad (30 Mai). Dewch â’ch cerdyn myfyriwr a cherdyn adnabyddiaeth dilys y llywodraeth.
Bwffé Parti Spiros
Bydd opsiynau Heb Glwten a Fegan ar gael hefyd. Cysylltwch â becky.bush@uwtsd.ac.uk os oes gennych chi unrhyw ymholiadau ynghylch bwyd.
Lleoliad : Conrerstones, Charles St, Cardiff CF10 2GA
Math: Caerdydd, Dathliadau’r Haf
Dyddiad dechrau: Dydd Sadwrn 30-05-2026 - 19:00
Dyddiad gorffen: Dydd Sadwrn 30-05-2026 - 23:00
Becky Bush
becky.bush@uwtsd.ac.uk
Clic yma i weld y telerau ac amodau
Mae lleoedd yn gyfyngedig ar gyfer rhai digwyddiadau. Os oes botwm Archebwch Nawr yn ymddangos o fewn y disgrifiad, mae'n rhaid i chi gofrestru cyn y gallwch fynychu. Ar gyfer y digwyddiadau hyn, archebwch le dim ond os ydych chi'n gwybod y gallwch chi fod yn bresennol. Gallwch hefyd roi gwybod i ni os na allwch fynychu fel y gallwn gynnig eich lle i rywun arall.
Ni ellir ad-dalu cost tocynnau ar gyfer digwyddiad a ffioedd archebu, oni bai;
Eich bod yn rhoi o leiaf deg diwrnod gwaith o rybudd i ni
Rydym yn gohirio neu’n canslo'r digwyddiad.
Cysylltwch â ni yn union@uwtsd.ac.uk i drafod eich archeb.
Mae’n bosibl y bydd ffotograffau a fideos yn cael eu cymryd yn ein digwyddiadau. Trwy archebu lle yn ein digwyddiad, rydych yn rhoi hawliau llawn i ni (Undeb Myfyrwyr PCyDDS) ddefnyddio’r delweddau sy’n deillio o hynny. Os nad ydych yn dymuno cael eich llun wedi’i dynnu, rhowch wybod i ni trwy gysylltu neu siarad â'r ffotograffydd ar y safle.
Gallwch weld ein hysbysiad preifatrwydd yn llawn ar ein gwefan.