Lleoliad: Snyg yr UM / Dyddiad ac Amser 22/9/2026 5:00pm tan 7pm.
Ymunwch â ni ar gyfer gweithdy serameg creadigol a llawn hwyl, dan ofal Oddity Ceramics, a sefydlwyd gan ein cyn-fyfyriwr dawnus Hannah! Yn y sesiwn ymarferol hon ar gyfer myfyrwyr newydd, byddwch yn cael mwg wedi’i wneud yn barod (perffaith i ychwanegu rhywfaint o gymeriad i’ch ystafell, ar gyfer eich coffi yn y bore neu i ddal pensiliau). Yna cewch gyfle i i’w baentio gan ddefnyddio amrywiaeth o liwiau llachar. P’un a ydych chi’n hollol newydd i’r grefft neu os oes gennych chi rywfaint o brofiad ym maes crochenwaith, mae’r gweithdy hwn yn gyfle perffaith i feithrin sgiliau newydd, rhyddhau eich creadigrwydd, a gwneud ffrindiau newydd mewn amgylcchedd hamddenol a chroesawus. Bydd ein tiwtor, Hannah, sydd â gradd o PCyDDS a sylfaenydd Oddity Ceramics, yn eich tywys trwy bob cam o’r broses, gan rannu ei harbenigedd a’i hangerdd am serameg. Mae’r gweithdy hwn yn dyst i dalent ac ysbryd entrepreneuraidd ein cymuned o gyn-fyfyrwyr.
• Mae Snyg yr UM wedi’i leoli ym mhen draw corridor yr UM yng Nghanolfan Dylan Thomas. Ar yr adeg hon bydd angen i chi ddod i mewn i’r adeilad rwy’r drysau cefn o’r maes parcio, lle bydd aelod o staff yr UM yn eich arwyddo i mewn.
• Cost £3
• Tocynnau: Cofrestrwch am eich tocynnau yma, mae lleoedd yn gyfyngedig.
• Os ydych ch’n hwyr, bydd hynny’n cyfyngu ar yr amser sydd gennych chi ar gyfer paentio, ac efallai na fyddwch chi’n gorffen mewn pryd.
• Bydd yr holl ddeunyddiau’n cael eu darparu, a byddwch yn cael cadw’r mwg ar y diwedd (noder y bydd rhaid iddyn nhw gael eu tanio mewn odyn, a byddant yn barod i’w casglu ymhen 3-4 wythnos.
Lleoliad : SU Snug, Students' Union, Dylan Thomas Centre
Math: Glasfyfyrwyr, Abertawe
Dyddiad dechrau: Dydd Mawrth 22-09-2026 - 17:00
Dyddiad gorffen: Dydd Mawrth 22-09-2026 - 19:00
Rebecca
su.opps@uwtsd.ac.uk
Clic yma i weld y telerau ac amodau
Mae lleoedd yn gyfyngedig ar gyfer rhai digwyddiadau. Os oes botwm Archebwch Nawr yn ymddangos o fewn y disgrifiad, mae'n rhaid i chi gofrestru cyn y gallwch fynychu. Ar gyfer y digwyddiadau hyn, archebwch le dim ond os ydych chi'n gwybod y gallwch chi fod yn bresennol. Gallwch hefyd roi gwybod i ni os na allwch fynychu fel y gallwn gynnig eich lle i rywun arall.
Ni ellir ad-dalu cost tocynnau ar gyfer digwyddiad a ffioedd archebu, oni bai;
Eich bod yn rhoi o leiaf deg diwrnod gwaith o rybudd i ni
Rydym yn gohirio neu’n canslo'r digwyddiad.
Cysylltwch â ni yn union@uwtsd.ac.uk i drafod eich archeb.
Mae’n bosibl y bydd ffotograffau a fideos yn cael eu cymryd yn ein digwyddiadau. Trwy archebu lle yn ein digwyddiad, rydych yn rhoi hawliau llawn i ni (Undeb Myfyrwyr PCyDDS) ddefnyddio’r delweddau sy’n deillio o hynny. Os nad ydych yn dymuno cael eich llun wedi’i dynnu, rhowch wybod i ni trwy gysylltu neu siarad â'r ffotograffydd ar y safle.
Gallwch weld ein hysbysiad preifatrwydd yn llawn ar ein gwefan.