Gweithdy Celfyddydau Tsieineaidd (Abertawe)

  • Chinese arts workshop

Gweithdy Celfyddydau Tsieineaidd (Abertawe)

Try Traditional Chinese Arts

Ymunwch â'n gweithdy celfyddydau Tsieineaidd am ddim, lle byddwn ni rhoi cynnig ar dechnegau caligraffeg a phaentio traddodiadol i ddathlu Gŵyl y Gwanwyn.

Pryd: 17:00 - 19:00, Dydd Iau 26 Chwefror
Ble: Undeb Myfyrwyr, Canolfan Dylan Thopmas

Caligraffeg Tsieineaidd

Fe gewch chi'r holl ddeunyddiau sydd eu hangen arnoch chi wrth i ni ysgrifennu'r cymeriad “Fu” (福) - symbol o lwc dda - gan ddefnyddio caligraffi Tsieineaidd. Yn nhraddodiad Tsieineaidd, mae'r cymeriad "Fu" yn cael ei arddangos ar ddrysau neu ffenestri yn ystod Blwyddyn Newydd y Lleuad i wahodd lwc a bendithion i'r cartref - a phwy sydd ddim angen mwy o hynny?

Gwyntyll Papur Addurnol

Y flwyddyn newydd hon yw “Blwyddyn y Ceffyl” - wedi’i nodweddu gan themâu egni, bywiogrwydd a dechreuadau newydd. Bydd cyfle i chi baentio gwyntyll papur addurniadol gan ddefnyddio technegau paentio Tsieineaidd traddodiadol.

Mae croeso i bawb

Mae'r gweithdy hwn yn brofiad hamddenol, ymarferol ac yn agored i bawb. Mae’r cwbl am ddim, ac nid oes angen cefndir artistig - dim ond chwilfrydedd a pharodrwydd i roi cynnig ar rywbeth newydd.

Mae'r digwyddiad hwn yn cael ei arwain gan Rainna, Llywydd Caerdydd ac Abertawe ar gyfer 2025/26.

 

Gwybodaeth Bwysig

  • Cynhelir y digwyddiad hwn dan-do mewn lleoliad hygyrch i gadeiriau olwyn ar y campws.
  • Bydd byrddau a chadeiriau’n cael eu darparu.
  • Bydd cerddoriaeth yn cael ei chwarae ar lefel isel.
  • Rydym yn argymell gwisgo dillad nad oes ots gennych chi gael paent/inc arnynt.
  • Mae'r digwyddiad hwn ar agor i blant yng nghwmni eu rhiant neu warcheidwad, gyda nifer gyfyngedig o docynnau. Nodwch eich bod chi'n gyfrifol amdanyn nhw.

Lleoliad/Amser

Lleoliad : Students' Union, Dylan Thomas Centre

Math: Rhowch Gynnig Arni, Rhowch Gynnig Arni Abertawe, Abertawe

Dyddiad dechrau: Dydd Iau 26-02-2026 - 17:00

Dyddiad gorffen: Dydd Iau 26-02-2026 - 19:00

Nifer y lleoedd: 20

Manylion cyswllt

Rebecca

suopportunities@uwtsd.ac.uk

Telerau ac amodau

Clic yma i weld y telerau ac amodau