Ffair Grefftau Nadolig

  • Christmas craft fair thumbnail
  • Ffair Grefftau Nadolig Stiwdio Griffith, Dynevor Building, De La Beche Street, Swansea, SA1 3EU Dydd Sul 22-11-2026 - 16:00 tan Dydd Sul 22-11-2026 - 19:00

Ffair Grefftau Nadolig

Lleoliad: Stiwdio Griffith, Adeilad Dinefwr, Abertawe, SA1 3EU

Pryd: Dydd Sul 22ain Tachwedd, 4pm-7pm


Chwilio am yr anrheg Nadolig berffaith, neu efallai rhywbeth bach arbennig i chi'ch hun? Camwch allan o oerfel y gaeaf ac ymunwch â ni i bori o amgylch ein Ffair Grefftau Nadolig, gan ddathlu creadigrwydd a thalent ein myfyrwyr a chyn-fyfyrwyr gwych yng Ngholeg Celf Abertawe!

Crefftau creadigol gan fyfyrwyr a chyn-fyfyrwyr talentog. Gyda detholiad gwych o drysorau wedi'u gwneud â llaw, anrhegion unigryw a darganfyddiadau Nadoligaidd, ein ffair dros-dro yw'r lle perffaith i ddod o hyd i rywbeth arbennig i rywun rydych chi'n ei garu (neu i fynnu rhywbeth i chi'ch hun!).

Yr un diwrnod â'r orymdaith. Yn digwydd ar yr un diwrnod â Gorymdaith Nadolig y Cyngor, rydym wedi'n lleoli'n gyfleus dim ond un stryd yn ôl o brif lwybr yr orymdaith. Ar agor ychydig cyn, yn ystod ac ar ôl yr orymdaith, ni yw'r lle perffaith i alw heibio, cynhesu a mwynhau hwyl y Nadolig.

Siopwch yn lleol, cefnogwch greadigrwydd a lledaenwch ychydig o lawenydd y Nadolig! Bydd yr holl elw o unrhyw werthiant yn mynd yn uniongyrchol i’n stondinwyr, gyda’r myfyrwyr hynny’n gallu rhoi eu henillion tuag at brosiectau yn y dyfodol a chyfleoedd creadigol o fewn yr Ysgol Gelf.

Ar agor i bawb. P'un a ydych chi'n ymuno â ni gyda ffrindiau, teulu neu'n ymweld ar eich pen eich hun, mae croeso i bawb! Dewch â'ch anwyliaid, mwynhewch yr awyrgylch a helpwch ni i gychwyn hud a llawenydd tymor y gaeaf. Rydyn ni methu aros i'ch gweld chi yno!


Mae angen Gwneuthurwyr o blith Myfyrwyr: Gwerthu yn y Ffair

Rydym yn chwilio am fyfyrwyr a chyn-fyfyrwyr i fod yn stondinwyr a gwerthu eu nwyddau yn Ffair Grefftau'r Nadolig. Mae stondinau am ddim, ond mae lleoedd yn gyfyngedig. Nid yw cwblhau'r ffurflen gais yn gwarantu y cewch stondin.

Ffurflen Gais


Hygyrchedd

  • Mae yna ramp wrth y fynedfa ar Stryd De-La Beche, ac o'r brif orymdaith ar Ffordd y Brenin mae llwybr gwastad ag un ramp bach i fyny at y drysau trwy Blas Dinefwr. 
  • Cynhelir y ffair ei hun ar y llawr gwaelod, a bydd y stondinau wedi'i gwasgaru i geisio sicrhau lle i symud; byddwn hefyd yn cyfyngu ar faint o bobl sy'n dod i mewn i'r ffair ar yr un pryd. 
  • Bydd yna staff yn monitro’r drysau, a bydd staff yn caniatáu mynychwyr i fynd i mewn ac allan o'r adeilad trwy'r fynedfa flaen. 
  • Efallai y bydd cerddoriaeth yn chwarae ar lefel gymedrol ar gyfer sŵn cefndir Nadoligaidd.

Lleoliad/Amser

Lleoliad : Stiwdio Griffith, Dynevor Building, De La Beche Street, Swansea, SA1 3EU

Math: Abertawe

Dyddiad dechrau: Dydd Sul 22-11-2026 - 16:00

Dyddiad gorffen: Dydd Sul 22-11-2026 - 19:00

Manylion cyswllt

Students' Union

su.opps@uwtsd.ac.uk

Telerau ac amodau

Clic yma i weld y telerau ac amodau