
Un Noson, Dau Ddigwyddiad - Cwis + Pizza a Pheint, a Disgo Distaw. Ymunwch â ni am noson o hwyl wrth i ni groesawu popeth sy'n ymwneud â'r Nadolig ar gampws Caerfyrddin.
Archebwch eich tocynnau. Mae Nadolig yng Nghaerfyrddin yn ddigwyddiad am ddim, ond mae angen tocyn. Gallwch archebu tocyn ar gyfer y cwis + pizza a pheint yn unig, y disgo, neu'r ddau - ond mae’n bwysig eich bod chi’n cofrestru, gan fod hyn yn ein helpu ni'n fawr â'n cynllunio.
Digwyddiad 1: Cwis + Pizza a PheintNos Fercher 25ain Tachwedd, 18:00 - 20:00
Llawr Cyntaf, Adeilad Addysgu a Dysgu
Rhowch brawf ar eich ymennydd gyda'n Cwis Nadolig heriol a llawn hwyl, yng ngofal ein cwis-feistr preswyl, Laura.
Fe’i cynhelir ar y Llawr Cyntaf yn adeilad Addysgu a Dysgu, lle gallwch fwynhau pizza a diodydd.
Byddwn ni'n trefnu timau ar y diwrnod, felly dewch gyda'ch ffrindiau neu ar eich pen eich hun. Bydd y tîm buddugol yn cael hamper Nadoligaidd!
Digwyddiad 2: Disgo DistawNos Fercher 25ain Tachwedd, 20:00 - 00:00
Merlin yn Adeilad Halliwell
Byddwch yn barod am noson ddim mor dawel wrth i ni drawsnewid Merlin yn barti Nadolig eithriadol ar y campws!
Mae'n mynd i fod yn noson o hyfrydwch ac awyrgylch Nadoligaidd. Ac wrth gwrs mae'n rhaid i chi wisgo eich siwmper Nadolig orau.
Gallwch ddisgwyl cerddoriaeth Nadoligaidd gan ein DJ, addurniadau pwrpasol, ac awyrgylch i godi’ch ysbryd, a bydd bar yn gweini diodydd hefyd!
Mae Nadolig yng Nghaerfyrddin yn ddigwyddiad am ddim, ond mae angen tocyn. Gallwch archebu tocyn ar gyfer y cwis + pizza a pheint yn unig, y disgo, neu'r ddau - ond mae’n bwysig eich bod chi’n cofrestru, gan fod hyn yn ein helpu ni'n fawr â'n cynllunio.
Lleoliad : T&L First Floor & Merlin
Math: Caerfyrddin
Dyddiad dechrau: Dydd Mercher 25-11-2026 - 18:00
Dyddiad gorffen: Dydd Iau 26-11-2026 - 00:00
Undeb Myfyrwyr
su@uwtsd.ac.uk
Clic yma i weld y telerau ac amodau
Mae lleoedd yn gyfyngedig ar gyfer rhai digwyddiadau. Os oes botwm Archebwch Nawr yn ymddangos o fewn y disgrifiad, mae'n rhaid i chi gofrestru cyn y gallwch fynychu. Ar gyfer y digwyddiadau hyn, archebwch le dim ond os ydych chi'n gwybod y gallwch chi fod yn bresennol. Gallwch hefyd roi gwybod i ni os na allwch fynychu fel y gallwn gynnig eich lle i rywun arall.
Ni ellir ad-dalu cost tocynnau ar gyfer digwyddiad a ffioedd archebu, oni bai;
Eich bod yn rhoi o leiaf deg diwrnod gwaith o rybudd i ni
Rydym yn gohirio neu’n canslo'r digwyddiad.
Cysylltwch â ni yn union@uwtsd.ac.uk i drafod eich archeb.
Mae’n bosibl y bydd ffotograffau a fideos yn cael eu cymryd yn ein digwyddiadau. Trwy archebu lle yn ein digwyddiad, rydych yn rhoi hawliau llawn i ni (Undeb Myfyrwyr PCyDDS) ddefnyddio’r delweddau sy’n deillio o hynny. Os nad ydych yn dymuno cael eich llun wedi’i dynnu, rhowch wybod i ni trwy gysylltu neu siarad â'r ffotograffydd ar y safle.
Gallwch weld ein hysbysiad preifatrwydd yn llawn ar ein gwefan.