Mae'r tymor newydd ddechrau, ac mae ein tîm yng Nghaerfyrddin yn awyddus i gwrdd â chi! Ymunwch â Harriet, eich Llywydd etholedig, ac aelodau eraill o dîm Caerfyrddin am sgwrs ddifyr. Byddwn yn trafod sut rydych chi’n ymgartrefu, beth sydd ar y gweill ac yn ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych chi. Cewch hefyd fwynhau darn o deisen a phaned o de am ddim - felly dewch draw i’r Llofft
Lleoliad : T&L Social Space
Math: Caerfyrddin, Glasfyfyrwyr, Glasfyfyrwyr Caerfyrddin
Dyddiad dechrau: Dydd Iau 24-09-2026 - 15:00
Dyddiad gorffen: Dydd Iau 24-09-2026 - 17:00
Nifer y lleoedd: 100
SU Opportunities
SU.Opps@uwtsd.ac.uk
Clic yma i weld y telerau ac amodau
Mae lleoedd yn gyfyngedig ar gyfer rhai digwyddiadau. Os oes botwm Archebwch Nawr yn ymddangos o fewn y disgrifiad, mae'n rhaid i chi gofrestru cyn y gallwch fynychu. Ar gyfer y digwyddiadau hyn, archebwch le dim ond os ydych chi'n gwybod y gallwch chi fod yn bresennol. Gallwch hefyd roi gwybod i ni os na allwch fynychu fel y gallwn gynnig eich lle i rywun arall.
Ni ellir ad-dalu cost tocynnau ar gyfer digwyddiad a ffioedd archebu, oni bai;
Eich bod yn rhoi o leiaf deg diwrnod gwaith o rybudd i ni
Rydym yn gohirio neu’n canslo'r digwyddiad.
Cysylltwch â ni yn union@uwtsd.ac.uk i drafod eich archeb.
Mae’n bosibl y bydd ffotograffau a fideos yn cael eu cymryd yn ein digwyddiadau. Trwy archebu lle yn ein digwyddiad, rydych yn rhoi hawliau llawn i ni (Undeb Myfyrwyr PCyDDS) ddefnyddio’r delweddau sy’n deillio o hynny. Os nad ydych yn dymuno cael eich llun wedi’i dynnu, rhowch wybod i ni trwy gysylltu neu siarad â'r ffotograffydd ar y safle.
Gallwch weld ein hysbysiad preifatrwydd yn llawn ar ein gwefan.