Course Rep Social: Bunkers Mini Golf

  • Mini golf thumbnail

Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben neu nid yw'r digwyddiad bellach ar gael.

Course Rep Social: Bunkers Mini Golf

Ai chi fydd pencampwr mini-golf yn ein digwyddiad cymdeithasol nesaf ar gyfer Cynrychiolwyr Myfyrwyr?

Gallwch ddisgwyl digonedd o chwerthin a chystadleuaeth gyfeillgar wrth i chi a'ch ffrindiau newydd lywio trwy'r cwrs llawn hwyl yn Bunkers. Codwch ysbryd eich gilydd; mae’n gyfle i dynnu coes, a dathlu pob twll-mewn-un! Mae hwn yn gyfle gwych i ddod i adnabod eich cyd-fyfyrwyr mewn awyrgylch hamddenol.

Rhaid i chi fod â dogfen adnabyddiaeth ddilys (trwydded yrru, pasbort a.y.b.) i aros yn y lleoliad ar ôl 20:00 neu yfed alcohol.

Yr hyn y gallwch chi ei ddisgwyl:

  • Cyfle i gwrdd a chymdeithasu â chynrychiolwyr myfyrwyr eraill.
  • Rownd o mini-golf.
  • Byddwch chi'n derbyn feisor, un ddiod tŷ, ac un siot.
  • Bydd digonedd o gyfleoedd i dynnu lluniau

Archebwch eich lle

Digwyddiad â mynediad trwy docyn yw hwn - bydd angen i chi archebu eich lle; mae tocynnau'n £10

Pryd a Ble

📍 Bunkers Abertawe
🗓️ ️ Dydd Gwener 23ain Mai
🕰️ Dechrau am 6pm, felly dewch draw erbyn 5.45pm os gwelwch yn dda 

Hygyrchedd

  •  Mae'r cyrsiau wedi'u lled-oleuo gyda rhai mannau tywyll.
  • Mae'r cyrsiau'n gymharol wastad; mae’n bosib y bydd rhai o'r tyllau pytio’n anodd eu cyrraedd os ydych chi mewn cadair olwyn.  
  • Mae gan y lleoliad lifft a thoiled hygyrch. 
  • Mae’n bosib y bydd cerddoriaeth uchel yn cael ei chwarae. 
  • Mae hefyd yn bosib y bydd yna rywfaint o oleuadau sy'n fflachio.

Oes gennych chi Gwestiynau?

Mae gennym ni atebion - anfonwch e-bost atom yn studentvoice@uwtsd.ac.uk

Lleoliad/Amser

Lleoliad : Bunkers, Swansea

Math: Abertawe

Dyddiad dechrau: Dydd Gwener 23-05-2025 - 18:00

Dyddiad gorffen: Dydd Gwener 23-05-2025 - 21:00

Manylion cyswllt

Student Voice

studentvoice@uwtsd.ac.uk

Telerau ac amodau

Clic yma i weld y telerau ac amodau