Glasfyfyrwyr Caerfyrddin! – Sesiwn Addurno gyda Harriet!

  • 2526   freshers   event thumbnail template17

Glasfyfyrwyr Caerfyrddin! – Sesiwn Addurno gyda Harriet!

Mae gennym Lywydd Campws newydd, Harriet! Allith hi ddim aros i ddod i'ch adnabod chi, p’un a ydych chi'n fyfyriwr newydd neu'n dychwelyd, felly galwch heibio, dywedwch helo ac ewch ati i greu eich cofrodd eich hun i fywiogi'ch ystafell! Yn y sesiwn grefftio hon byddwn yn creu ac yn addurno arwyddion pren a chadwyni papur i'w harddangos yn eich ystafelloedd, fflatiau a thai. Mae hwn yn ddigwyddiad hamddenol braf, lle gallwch chi ymlacio, cwrdd â phobl newydd, cymdeithasu a gwneud ffrindiau newydd.

Hygyrchedd

Mae'r Llofft ar lawr cyntaf adeilad Undeb y Myfyrwyr, a gellir cyrraedd yr ystafell drwy'r grisiau wrth ymyl y fynedfa flaen neu drwy ddefnyddio’r lifft sydd y tu ôl i'r grisiau.

Lleoliad/Amser

Lleoliad : Y Llofft, Carmarthen Students' Union

Math: Caerfyrddin, Glasfyfyrwyr, Glasfyfyrwyr Caerfyrddin

Dyddiad dechrau: Dydd Sul 20-09-2026 - 12:00

Dyddiad gorffen: Dydd Sul 20-09-2026 - 16:00

Nifer y lleoedd: 100

Manylion cyswllt

SU Opportunities

SU.Opps@uwtsd.ac.uk

Telerau ac amodau

Clic yma i weld y telerau ac amodau