Ydych chi'n aelod o'r Gymdeithas Archaeoleg? Os ydych chi, beth am ymuno â'r grŵp ar ymweliad â safleoedd neolithig trawiadol Penrhyn Gŵyr, wedi'u hamgylchynu gan un o'r tirweddau harddaf yng Nghymru, mytholeg Arthuraidd, ac archaeoleg ddiddorol.
Bydd y grŵp yn cyfarfod ym maes parcio Maen Arthur am 11am ddydd Mercher 10fed Rhagfyr. Byddwn yn ymweld â Maen Arthur, Carnedd Cefn Bryn, Twyni Penmaen, a Siambr Gladdu Parc Le Breos.
Dewch ag esgidiau addas ar gyfer cerdded: Byddem yn argymell esgidiau glaw / esgidiau cerdded.
Gwnewch yn siŵr eich bod wedi cofrestru fel aelod i fynychu a derbyn rhagor o wybodaeth am y daith.
Ddim yn aelod o Gymdeithas Archaeoleg PCyDDS? Dilynwch y ddolen hon i ddod yn aelod - @Ymunwch â'r Gymdeithas Archaeoleg
Lleoliad : Arthur's Stone Car Park, Cefyn Bryn, Gower, SA3 1HA
Math: Caerfyrddin, Clwbiau a Cymdeithasau, Clwbiau a Cymdeithasau Caerfyrddin
Dyddiad dechrau: Dydd Mercher 10-12-2025 - 11:00
Dyddiad gorffen: Dydd Iau 11-12-2025 - 17:00
Student Opportunities Team
suopportunities@uwtsd.ac.uk
Clic yma i weld y telerau ac amodau
Mae lleoedd yn gyfyngedig ar gyfer rhai digwyddiadau. Os oes botwm Archebwch Nawr yn ymddangos o fewn y disgrifiad, mae'n rhaid i chi gofrestru cyn y gallwch fynychu. Ar gyfer y digwyddiadau hyn, archebwch le dim ond os ydych chi'n gwybod y gallwch chi fod yn bresennol. Gallwch hefyd roi gwybod i ni os na allwch fynychu fel y gallwn gynnig eich lle i rywun arall.
Ni ellir ad-dalu cost tocynnau ar gyfer digwyddiad a ffioedd archebu, oni bai;
Eich bod yn rhoi o leiaf deg diwrnod gwaith o rybudd i ni
Rydym yn gohirio neu’n canslo'r digwyddiad.
Cysylltwch â ni yn union@uwtsd.ac.uk i drafod eich archeb.
Mae’n bosibl y bydd ffotograffau a fideos yn cael eu cymryd yn ein digwyddiadau. Trwy archebu lle yn ein digwyddiad, rydych yn rhoi hawliau llawn i ni (Undeb Myfyrwyr PCyDDS) ddefnyddio’r delweddau sy’n deillio o hynny. Os nad ydych yn dymuno cael eich llun wedi’i dynnu, rhowch wybod i ni trwy gysylltu neu siarad â'r ffotograffydd ar y safle.
Gallwch weld ein hysbysiad preifatrwydd yn llawn ar ein gwefan.