Gwener 9 Ionawr 2026, 13:45-14:45, Dosbarth 1
Mae'r gyn-fyfyrwraig Georgia Howe, sydd bellach yn arweinydd marchnata gyda Camp Counselors USA ar gyfer De Cymru, yn rhannu sut y gall myfyrwyr dreulio haf yn un o dros 700 o wersylloedd yn yr Unol Daleithiau, gan ennill profiad gwerthfawr mewn rolau perfformio a chreadigol.
Mae'r sesiwn hon yn trafod sut mae gwaith gwersyll yn meithrin sgiliau mewn arweinyddiaeth, gwaith tîm ac addysgu, gan gynnig teithio, cyfleoedd â thâl a phrofiadau bythgofiadwy. Yn ddelfrydol ar gyfer myfyrwyr sy'n awyddus i ddatblygu eu gyrfa, eu hyder a'u creadigrwydd dros yr haf.
Archebwch eich lle nawr; edrychwn ymlaen at eich gweld chi yno!
Lleoliad : Haywood House - Classroom 1
Math: Caerdydd, Wythnos Sgiliau, Wythnos Sgiliau Caerdydd
Dyddiad dechrau: Dydd Gwener 09-01-2026 - 13:45
Dyddiad gorffen: Dydd Gwener 09-01-2026 - 14:45
Becky Bush
becky.bush@uwtsd.ac.uk
Clic yma i weld y telerau ac amodau
Mae lleoedd yn gyfyngedig ar gyfer rhai digwyddiadau. Os oes botwm Archebwch Nawr yn ymddangos o fewn y disgrifiad, mae'n rhaid i chi gofrestru cyn y gallwch fynychu. Ar gyfer y digwyddiadau hyn, archebwch le dim ond os ydych chi'n gwybod y gallwch chi fod yn bresennol. Gallwch hefyd roi gwybod i ni os na allwch fynychu fel y gallwn gynnig eich lle i rywun arall.
Ni ellir ad-dalu cost tocynnau ar gyfer digwyddiad a ffioedd archebu, oni bai;
Eich bod yn rhoi o leiaf deg diwrnod gwaith o rybudd i ni
Rydym yn gohirio neu’n canslo'r digwyddiad.
Cysylltwch â ni yn union@uwtsd.ac.uk i drafod eich archeb.
Mae’n bosibl y bydd ffotograffau a fideos yn cael eu cymryd yn ein digwyddiadau. Trwy archebu lle yn ein digwyddiad, rydych yn rhoi hawliau llawn i ni (Undeb Myfyrwyr PCyDDS) ddefnyddio’r delweddau sy’n deillio o hynny. Os nad ydych yn dymuno cael eich llun wedi’i dynnu, rhowch wybod i ni trwy gysylltu neu siarad â'r ffotograffydd ar y safle.
Gallwch weld ein hysbysiad preifatrwydd yn llawn ar ein gwefan.