Ffair y Glas Caerfyrddin 2025

  • Carmarthen welcome thumbnails copy v2

Ffair y Glas Caerfyrddin 2025

Mae'r Ffair y Glas yn uchafbwynt cyfnod y glas. P'un a ydych chi ar eich blwyddyn gyntaf neu'ch blwyddyn olaf, dewch i wybod beth sy'n digwydd o amgylch y campws, ymunwch â chlybiau a chymdeithasau; cewch gwrdd â busnesau lleol, mwynhau’r gweithgareddau a'r gemau, a chasglu’r holl nwyddau am ddim.

Pryd a ble

Mae’r Ffair y Glas ar agor o 10:00 tan 14:00 yn adeilad Undeb y Myfyrwyr, Campws Caerfyrddin. Mae’r digwyddiad hwn am ddim a does dim angen archebu tocynnau - dewch draw.

Yr hyn y gallwch ei ddisgwyl  

  • Llawer o stondinau a gwesteion
  • Cyfle i gwrdd â chlybiau a chymdeithasau dan arweiniad myfyrwyr
  • Cael eich dwylo ar nwyddau am ddim
  • Hwyl a sbri
  • Cyfle i ddod i wybod beth sy'n digwydd ar y campws ac yn yr ardal

Lluniau o’r Ffair y Glas

  • five students standing with a purple dragon mascot
  • A small group of students standing in a hole filled with people
  • Two people holding calendars one person making the peace sign
  • Dragon mascot holding ice cream cone
  • Two people holding an A3 poster with events listed on it
  • A person holding a poster reading it in detail
  • Three people talking to each other in a hall
  • A person riding a mechanical bull
  • A group of students in the very busy hall
  • two students talking to a stallholder

Gwybodaeth am Hygyrchedd 

Trosolwg: cynhelir y digwyddiad hwn yn adeilad Undeb y Myfyrwyr ar draws dau lawr. Mae lloriau gwastad ar y rhan fwyaf o’r llawr gwaelod, ond mae yna rai mannau y gallwch gael mynediad iddynt trwy ddefnyddio ramp. Gellir cyrraedd y llawr cyntaf gan ddefnyddio grisiau neu lifft, ac mae yna loriau gwastad drwyddo draw.

Parcio: mae mannau parcio ar y safle i fyfyrwyr sy'n cynnwys mannau parcio dynodedig ar gyfer pobl ag anableddau.

Mynedfa: mae mynediad i'r adeilad trwy ddrysau awtomatig sy'n gweithio gyda phanel cyffwrdd.

Goleuo: mae'r adeilad wedi'i oleuo'n dda drwyddo draw ac mae yna lawer o ffenestri a golau naturiol yn y brif ystafell.

Sain: mae hwn yn ddigwyddiad poblogaidd a gall fod yn eithaf swnllyd.

Torfeydd: mae hwn yn ddigwyddiad poblogaidd a gall fynd yn orlawn.

Lifftiau a Grisiau: gallwch gael mynediad i'r llawr cyntaf trwy risiau neu lifft.

Toiledau: mae'r toiledau wedi eu lleoli ar y llawr gwaelod.

Lleoliad/Amser

Lleoliad : Students' Union Building, Carmarthen

Math: Caerfyrddin, Glasfyfyrwyr, Glasfyfyrwyr Caerfyrddin , Ffair y Glas

Dyddiad dechrau: Dydd Llun 22-09-2025 - 10:00

Dyddiad gorffen: Dydd Llun 22-09-2025 - 14:00

Manylion cyswllt

Undeb Myfyrwyr

union@uwtsd.ac.uk

Telerau ac amodau

Clic yma i weld y telerau ac amodau