Mae'r Ffair y Glas yn uchafbwynt cyfnod y glas. P'un a ydych chi ar eich blwyddyn gyntaf neu'ch blwyddyn olaf, dewch i wybod beth sy'n digwydd o amgylch y campws, ymunwch â chlybiau a chymdeithasau; cewch gwrdd â busnesau lleol, mwynhau’r gweithgareddau a'r gemau, a chasglu’r holl nwyddau am ddim.
Mae’r Ffair y Glas ar agor o 10:00 tan 16:00 yn Canolfan Dylan Thomas. Mae’r digwyddiad hwn am ddim a does dim angen archebu tocynnau - dewch draw.
Trosolwg: cynhelir y digwyddiad hwn ar lawr cyntaf Canolfan Dylan Thomas. Mae lloriau gwastad ar y rhan fwyaf o’r llawr gwaelod, ond mae yna rai mannau y gallwch gael mynediad iddynt trwy ddefnyddio ramp. Gellir cyrraedd y llawr cyntaf gan ddefnyddio grisiau neu lifft, ac mae yna loriau gwastad drwyddo draw.
Parcio: mae maes parcio gerllaw ar gyfer myfyrwyr.
Mynedfa: mae mynediad i'r adeilad trwy ddrysau ym mlaen yr adeilad.
Goleuo: mae'r adeilad wedi'i oleuo'n dda drwyddo draw ac mae yna lawer o ffenestri a golau naturiol yn y brif ystafell.
Sain: mae hwn yn ddigwyddiad poblogaidd a gall fod yn eithaf swnllyd.
Torfeydd: mae hwn yn ddigwyddiad poblogaidd a gall fynd yn orlawn.
Lifftiau a Grisiau: gallwch gael mynediad i'r llawr cyntaf trwy ddefnyddio grisiau neu lifft.
Toiledau: mae'r toiledau wedi eu lleoli ar y llawr cyntaf a’r llawr gwaelod.
Lleoliad : Dylan Thomas Centre, Swansea
Math: Glasfyfyrwyr, Ffair y Glas, Glasfyfyrwyr Abertawe , Abertawe
Dyddiad dechrau: Dydd Llun 22-09-2025 - 10:00
Dyddiad gorffen: Dydd Llun 22-09-2025 - 16:00
Undeb Myfyrwyr
union@uwtsd.ac.uk
Clic yma i weld y telerau ac amodau
Mae lleoedd yn gyfyngedig ar gyfer rhai digwyddiadau. Os oes botwm Archebwch Nawr yn ymddangos o fewn y disgrifiad, mae'n rhaid i chi gofrestru cyn y gallwch fynychu. Ar gyfer y digwyddiadau hyn, archebwch le dim ond os ydych chi'n gwybod y gallwch chi fod yn bresennol. Gallwch hefyd roi gwybod i ni os na allwch fynychu fel y gallwn gynnig eich lle i rywun arall.
Ni ellir ad-dalu cost tocynnau ar gyfer digwyddiad a ffioedd archebu, oni bai;
Eich bod yn rhoi o leiaf deg diwrnod gwaith o rybudd i ni
Rydym yn gohirio neu’n canslo'r digwyddiad.
Cysylltwch â ni yn union@uwtsd.ac.uk i drafod eich archeb.
Mae’n bosibl y bydd ffotograffau a fideos yn cael eu cymryd yn ein digwyddiadau. Trwy archebu lle yn ein digwyddiad, rydych yn rhoi hawliau llawn i ni (Undeb Myfyrwyr PCyDDS) ddefnyddio’r delweddau sy’n deillio o hynny. Os nad ydych yn dymuno cael eich llun wedi’i dynnu, rhowch wybod i ni trwy gysylltu neu siarad â'r ffotograffydd ar y safle.
Gallwch weld ein hysbysiad preifatrwydd yn llawn ar ein gwefan.