Noson Gemau a Phaent yn Y LLOFFT! Cyfle i ymlacio, bod yn greadigol, a chael hwyl yn ein Noson Gemau a Phaent!
P'un a ydych chi'n awyddus i ddangos eich ochr artistig neu ddim ond eisiau ymlacio gyda ffrindiau dros ychydig o gemau, mae’r noson hon yn cynnig ychydig o bopeth.
Paentiwch, sgwrsiwch, ac ewch ati i greu eich campwaith eich hun - does dim angen profiad, does ond angen i chi ddod â'ch dychymyg!
Bydd amrywiaeth o gemau ar gael hefyd - o gemau bwrdd a chardiau i fwrdd pŵl a mwy.
Mae'n gymysgedd perffaith o greadigrwydd, chwerthin a chwmni da.
Does dim angen archebu - dewch draw - cewch baentio, chwarae, a mwynhau'r awyrgylch!
Lleoliad : Y Lloft, UWTSD Students' Union, Carmarthen
Math: Caerfyrddin, Y Clwb a Y Llofft
Dyddiad dechrau: Dydd Llun 10-11-2025 - 20:00
Dyddiad gorffen: Dydd Llun 10-11-2025 - 23:30
Undeb Myfyrwyr
union@uwtsd.ac.uk
Clic yma i weld y telerau ac amodau
Mae lleoedd yn gyfyngedig ar gyfer rhai digwyddiadau. Os oes botwm Archebwch Nawr yn ymddangos o fewn y disgrifiad, mae'n rhaid i chi gofrestru cyn y gallwch fynychu. Ar gyfer y digwyddiadau hyn, archebwch le dim ond os ydych chi'n gwybod y gallwch chi fod yn bresennol. Gallwch hefyd roi gwybod i ni os na allwch fynychu fel y gallwn gynnig eich lle i rywun arall.
Ni ellir ad-dalu cost tocynnau ar gyfer digwyddiad a ffioedd archebu, oni bai;
Eich bod yn rhoi o leiaf deg diwrnod gwaith o rybudd i ni
Rydym yn gohirio neu’n canslo'r digwyddiad.
Cysylltwch â ni yn union@uwtsd.ac.uk i drafod eich archeb.
Mae’n bosibl y bydd ffotograffau a fideos yn cael eu cymryd yn ein digwyddiadau. Trwy archebu lle yn ein digwyddiad, rydych yn rhoi hawliau llawn i ni (Undeb Myfyrwyr PCyDDS) ddefnyddio’r delweddau sy’n deillio o hynny. Os nad ydych yn dymuno cael eich llun wedi’i dynnu, rhowch wybod i ni trwy gysylltu neu siarad â'r ffotograffydd ar y safle.
Gallwch weld ein hysbysiad preifatrwydd yn llawn ar ein gwefan.