Ymunwch â ni am brofiad addurno cacennau hwyliog a hamddenol, lle byddwch chi'n dylunio'ch cacen bento 4 modfedd eich hun; cynhelir y sesiwn gan fusnes lleol, Crumbles & Co! Dewiswch eich llenwadau, lliwiwch eich hufen-menyn, dysgwch dechnegau addurno syml — a chymerwch eich cacen gyda chi i'w mwynhau.
Bydd yr holl offer a deunyddiau’n cael eu darparu – dewch â'ch brwdfrydedd a'ch creadigrwydd! Bydd ein hyfforddwraig Caitlin yn eich tywys trwy awgrymiadau, triciau a thechnegau i gael yr addurn perffaith ar gyfer eich cacen bento!
Dim ond y rhai nad oes ganddynt unrhyw ofynion dietegol a'r rhai sy'n fegan y gallwn ni ddarparu ar eu cyfer, gan fod Crumbles & Co yn trin alergenau cyffredin yn y gegin, ac nid ydyn nhw'n gallu darparu ar gyfer anoddefiadau ar hyn o bryd.
Anfonwch e-bost at SUOpportunities@uwtsd.ac.uk wrth archebu i roi gwybod i ni a oes angen cacen fegan arnoch.
Byddai'r gweithdy hwn fel arfer yn costio £25 yr un; rydyn ni’n codi £10!
Hygyrchedd:
Lleoliad : Y Llofft, Carmarthen Students' Union
Math: Caerfyrddin, Rhowch Gynnig Arni, Rhowch Gynnig Arni Caerfyrddin
Dyddiad dechrau: Dydd Gwener 06-03-2026 - 17:30
Dyddiad gorffen: Dydd Gwener 06-03-2026 - 19:00
Nifer y lleoedd: 20
SU Opportunities
SUOpportunities@uwtsd.ac.uk
Clic yma i weld y telerau ac amodau
Mae lleoedd yn gyfyngedig ar gyfer rhai digwyddiadau. Os oes botwm Archebwch Nawr yn ymddangos o fewn y disgrifiad, mae'n rhaid i chi gofrestru cyn y gallwch fynychu. Ar gyfer y digwyddiadau hyn, archebwch le dim ond os ydych chi'n gwybod y gallwch chi fod yn bresennol. Gallwch hefyd roi gwybod i ni os na allwch fynychu fel y gallwn gynnig eich lle i rywun arall.
Ni ellir ad-dalu cost tocynnau ar gyfer digwyddiad a ffioedd archebu, oni bai;
Eich bod yn rhoi o leiaf deg diwrnod gwaith o rybudd i ni
Rydym yn gohirio neu’n canslo'r digwyddiad.
Cysylltwch â ni yn union@uwtsd.ac.uk i drafod eich archeb.
Mae’n bosibl y bydd ffotograffau a fideos yn cael eu cymryd yn ein digwyddiadau. Trwy archebu lle yn ein digwyddiad, rydych yn rhoi hawliau llawn i ni (Undeb Myfyrwyr PCyDDS) ddefnyddio’r delweddau sy’n deillio o hynny. Os nad ydych yn dymuno cael eich llun wedi’i dynnu, rhowch wybod i ni trwy gysylltu neu siarad â'r ffotograffydd ar y safle.
Gallwch weld ein hysbysiad preifatrwydd yn llawn ar ein gwefan.