Rhowch gynnig arni | Noson Gemau yn Social Dice

  • Social dice thumbnail

Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben neu nid yw'r digwyddiad bellach ar gael.

Rhowch gynnig arni | Noson Gemau yn Social Dice

18:00, dydd Iau 25ain Ebrill 
Social Dice Abertawe

Oni fyddai’n braf treulio'r noson yn chwarae gemau bwrdd a gemau fideo? 

Mae gennym ni sesiwn gemau 2 awr wedi'i threfnu yn Social Dice ac mae gwahoddiad i chi!

Dewiswch o blith hyd at 400 o wahanol gemau bwrdd i'w chwarae - mae yna rywbeth at ddant pob math o chwaraewr. Cewch gwrdd â chyd-fyfyrwyr, cymdeithasu a chymryd rhan mewn cystadleuaeth gyfeillgar. 

Ac os yw'r holl chwarae gemau'n codi chwant bwyd arnoch chi, mae gennym ni ddanteithion eraill ar eich cyfer chi - cewch daleb ar gyfer byrbryd gwerth £5 gan UMyDDS tra'ch byddwch chi yno.

Pa fwydydd sydd ar gael:

  • Ci poeth (opsiynau fegan ar gael)
  • Nachos wedi'u llwytho (opsiynau fegan ar gael)
  • Sglodion wedi'u llwytho (opsiynau fegan ar gael)
  • neu ddau fyrbryd bach (toesenni, myffin, fflapjac, creision - opsiynau fegan ar gael)

Tocynnau ️

Mae’r digwyddiad hwn am ddim i fyfyrwyr PCyDDS, ond mae lleoedd yn gyfyngedig - archebwch eich tocyn i sicrhau eich lle.

Amserlen

Sesiwn gemau’n dechrau am 6pm (cyrhaeddwch ychydig cyn hynny i gael y gorau o'ch sesiwn)

Sesiwn gemau’n dod i ben am 8pm 

Hygyrchedd

Mae Social Dice i gyd ar un llawr, a hwnnw’n llawr gwastad; mae toiled hygyrch yn y lleoliad, a staff wrth law i ateb unrhyw gwestiynau. 

Gallwch gael rhagor o wybodaeth am Social Dice ar eu gwefan: www.socialdice.co.uk 
 

 

 

Lleoliad/Amser

Lleoliad : Social Dice, Wind Street

Math: Rhowch Gynnig Arni , Abertawe, Abertawe

Dyddiad dechrau: Dydd Iau 25-04-2024 - 18:00

Dyddiad gorffen: Dydd Iau 25-04-2024 - 20:00

Manylion cyswllt

Rebecca

suopportunities@uwtsd.ac.uk

Telerau ac amodau

Clic yma i weld y telerau ac amodau