Mae'r digwyddiad hwn wedi'i ohirio.
*SYLWCH* Nid yw'r daith hon wedi'i harchebu ymlaen llaw, a dim ond os bydd digon o fyfyrwyr yn prynu tocynnau y bydd yn mynd yn ei blaen. Os byddwch yn prynu tocyn ac nad yw'r daith yn mynd yn ei blaen, byddwch yn derbyn ad-daliad llawn.
Ymunwch â ni yng Nghaerdydd am sesiwn Gwib-Gartio dan-do gyda RhGA (Rhowch gynnig arni)! Pwy fydd y cyflymaf ar y trac? Bydd pob gyrrwr yn rasio mewn dwy sesiwn 15 munud ar y trac, wedi’u trefnu fel sesiwn ymarfer/cymhwyso, ac yna ras gan ddechrau ar grid. Mae hon yn sesiwn wedi’i neilltuo ar eich cyfer chi, sy'n golygu mai dim ond eich grŵp chi fydd ar y trac!
BETH SY’N CAEL EI GYNNWYS:
· Rhagwybodaeth diogelwch llawn.
· Yr holl offer diogelwch.
· 2 x sesiwn gyrru 15 munud, gydag egwyl.
· Defnydd unigryw o'r trac.
· Cyflwyniad ar y podiwm ar gyfer y tri gyrrwr gorau.
I BWY MAE'N ADDAS:
Gyrwyr 14 oed a throsodd, gyda mesuriad tu mewn y goes sydd o leiaf 29 modfedd (o'r gafl i'r llawr, gydag esgidiau ymlaen).
Lleoliad : Team Sport Cardiff - 11 Dominion Wy, Newport Rd, Cardiff CF24 1PT
Math: Caerdydd, Rhowch Gynnig Arni, Rhowch Gynnig Arni Caerdydd
Dyddiad dechrau: Dydd Sadwrn 27-04-2024 - 17:00
Dyddiad gorffen: Dydd Sadwrn 27-04-2024 - 19:00
Nifer y lleoedd: 16
Becky Bush
becky.bush@uwtsd.ac.uk
Clic yma i weld y telerau ac amodau
Some events have limited spaces. If a Book Now button appears within the description you must register before you can attend. For these events please only book if you know you can make it. You can also let us know if you can’t attend so we can offer your space to someone else.
Photographs and videos may be taken at our events. By booking on to our event, you grant us (UWTSD Students’ Union) full rights to use the resulting images. If you do not wish to be photographed, please let us know by getting in touch or speaking with the on-site photographer.
You can view our full privacy notice on our website.