Rhowch gynnig arni | Paentio a Llymeitio yn yr UM!

  • Paint thumbnail

Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben neu nid yw'r digwyddiad bellach ar gael.

Rhowch gynnig arni | Paentio a Llymeitio yn yr UM!

17:00, dydd Iau 2il Mai 
Undeb y Myfyrwyr, Canolfan Dylan Thomas, Abertawe


Rhowch gyfle i’ch artist mewnol tra'n llymeitian. P'un a ydych chi'n beintiwr profiadol neu'n ddechreuwr sy'n awyddus i archwilio'ch ochr artistig, mae'r digwyddiad hwn yn berffaith i chi.
Ymunwch â ni am noson o baentio gyda gwydraid o prosecco am ddim ac ychydig o fyrbrydau i roi hwb i'ch egni a’ch creadigrwydd.
Cewch gyfle i greu eich campwaith eich hun - byddwn yn darparu printiau o baentiadau enwog er mwyn i chi fynd ati i greu un eich hun, yn rhoi awgrymiadau a hintiau handi i chi lunio portread perffaith neu gallwch adael i'ch dychymyg redeg yn wyllt a phaentio beth bynnag a fynnoch.

Yr hyn y gallwch chi ei ddisgwyl
•    Cynfas a chyfarpar paentio wedi’u darparu gan Undeb y Myfyrwyr
•    Gwydraid o prosecco neu ddiod di-alcohol am ddim
•    Byrbryd am ddim
•    Cyfle i gwrdd â myfyrwyr eraill
•    Cyfle i fod yn greadigol

Lleoliad  🗺️
Yng Nghanolfan Dylan Thomas, llawr gwaelod Undeb y Myfyrwyr. 
Ewch i mewn drwy'r drysau cefn lle mae'r maes parcio (ger Gwesty Morgans), bydd aelod o staff yr UM y tu mewn i sicrhau bod y drws ar agor i chi. 

Amserlen  ⏰
16:45 cyrraedd
17:00 Dechrau Paentio
19:30 Sesiwn Baentio’n dod i ben

Hygyrchedd 
•    Mae’r UM ar y llawr gwaelod, mae’r holl loriau’n wastad ac mae yna doiledau hygyrch yn yr un gofod.
•    Mae’n bosib y bydd cerddoriaeth yn chwarae’n isel yn y cefndir yn ystod y digwyddiad hwn.
•    Yn ogystal â prosecco am ddim, bydd diodydd di-alcohol ar gael.
•    Bydd siocled a chreision yn cael eu darparu fel byrbrydau yn ogystal ag ychydig o opsiynau heb glwten.
 

Lleoliad/Amser

Lleoliad : Big Meeting Room - The Students' Union Dylan Thomas Centre

Math: Rhowch Gynnig Arni , Abertawe, Abertawe

Dyddiad dechrau: Dydd Iau 02-05-2024 - 17:00

Dyddiad gorffen: Dydd Iau 02-05-2024 - 19:30

Manylion cyswllt

Rebecca

suopportunities@uwtsd.ac.uk

Telerau ac amodau

Clic yma i weld y telerau ac amodau