Parti Gloyw yn Y CLWB! Byddwch yn barod i oleuo'r nos yn ein Parti Gloyw!
Ymunwch â ni am noson clwb fythgofiadwy yn llawn awyrgylch disglair, cerddoriaeth wych, ac egni di-baid ar y llawr dawns.
Gallwch ddisgwyl cerddoriaeth wych, ategolion disglair, a llawr dawns a fydd yn eich cadw i symud drwy'r nos. Gwisgwch i ddisgleirio — neon, gwyn, ac unrhyw beth gloyw!
Gadewch i ni wneud hon yn noson i'w chofio — os nad ydych chi’n disgleirio, waeth i chi fynd adref!
Lleoliad : Y Clwb, Students' Union, Carmarthen
Math: Caerfyrddin, Y Clwb a Y Llofft
Dyddiad dechrau: Dydd Iau 27-11-2025 - 21:00
Dyddiad gorffen: Dydd Gwener 28-11-2025 - 02:00
Undeb Myfyrwyr
union@uwtsd.ac.uk
Clic yma i weld y telerau ac amodau
Mae lleoedd yn gyfyngedig ar gyfer rhai digwyddiadau. Os oes botwm Archebwch Nawr yn ymddangos o fewn y disgrifiad, mae'n rhaid i chi gofrestru cyn y gallwch fynychu. Ar gyfer y digwyddiadau hyn, archebwch le dim ond os ydych chi'n gwybod y gallwch chi fod yn bresennol. Gallwch hefyd roi gwybod i ni os na allwch fynychu fel y gallwn gynnig eich lle i rywun arall.
Ni ellir ad-dalu cost tocynnau ar gyfer digwyddiad a ffioedd archebu, oni bai;
Eich bod yn rhoi o leiaf deg diwrnod gwaith o rybudd i ni
Rydym yn gohirio neu’n canslo'r digwyddiad.
Cysylltwch â ni yn union@uwtsd.ac.uk i drafod eich archeb.
Mae’n bosibl y bydd ffotograffau a fideos yn cael eu cymryd yn ein digwyddiadau. Trwy archebu lle yn ein digwyddiad, rydych yn rhoi hawliau llawn i ni (Undeb Myfyrwyr PCyDDS) ddefnyddio’r delweddau sy’n deillio o hynny. Os nad ydych yn dymuno cael eich llun wedi’i dynnu, rhowch wybod i ni trwy gysylltu neu siarad â'r ffotograffydd ar y safle.
Gallwch weld ein hysbysiad preifatrwydd yn llawn ar ein gwefan.