Gwneud Cardiau Gwyliau!
Nos Llun, 01 Rhagfyr 2025, 18:00 – 20:00
Dyma'ch cyfle i dreulio amser gyda Llywydd eich campws a bod yn greadigol wrth Roi Cynnig Arni, a mynd ati i Greu a Chymysgwch gyda Rainna!
Ymunwch â ni am noson gwneud cardiau Nadoligaidd lle gallwch chi ddylunio eich cardiau gwyliau eich hun i'w rhannu gyda ffrindiau a theulu.
Byddwn yn darparu'r cardiau, yr amlenni, amrywiaeth o ddeunyddiau crefft, a hyd yn oed stamp fel y gallwch ei anfon at anwyliaid a all fod ymhell i ffwrdd.
Gallwch gadw'ch dyluniadau'n syml neu fynd ai o ddifri gyda glitter a rhubanau.
Dyma gyfle gwych i ymlacio cyn gwyliau'r gaeaf a chreu rhywbeth arbennig.
Tocynnau
Mae hwn yn ddigwyddiad am ddim i bob myfyriwr, ond mae lleoedd yn gyfyngedig felly mae angen archebu.
Y Cynllun
Cyrraedd Undeb y Myfyrwyr am 18:00.
Cewch wneud cynifer o gardiau ag y dymunwch, gyda digon o amser i fod yn greadigol.
Bydd y noson yn dod i ben tua 20:00.
Hygyrchedd
Cynhelir y digwyddiad hwn dan-do mewn ystafell hygyrch i gadeiriau olwyn ar y campws.
Bydd byrddau a chadeiriau’n cael eu darparu.
Bydd cerddoriaeth yn cael ei chwarae ar lefel isel.
Gwybodaeth Bwysig
Darperir yr holl ddeunyddiau.
Bydd lluniaeth ysgafn ar gael
1 stamp y pen.
Lleoliad : Recital Room Haywood House
Math: Caerdydd, Rhowch Gynnig Arni Caerdydd
Dyddiad dechrau: Dydd Llun 01-12-2025 - 18:00
Dyddiad gorffen: Dydd Llun 01-12-2025 - 20:00
Becky Bush
becky.bush@uwtsd.ac.uk
Clic yma i weld y telerau ac amodau
Mae lleoedd yn gyfyngedig ar gyfer rhai digwyddiadau. Os oes botwm Archebwch Nawr yn ymddangos o fewn y disgrifiad, mae'n rhaid i chi gofrestru cyn y gallwch fynychu. Ar gyfer y digwyddiadau hyn, archebwch le dim ond os ydych chi'n gwybod y gallwch chi fod yn bresennol. Gallwch hefyd roi gwybod i ni os na allwch fynychu fel y gallwn gynnig eich lle i rywun arall.
Ni ellir ad-dalu cost tocynnau ar gyfer digwyddiad a ffioedd archebu, oni bai;
Eich bod yn rhoi o leiaf deg diwrnod gwaith o rybudd i ni
Rydym yn gohirio neu’n canslo'r digwyddiad.
Cysylltwch â ni yn union@uwtsd.ac.uk i drafod eich archeb.
Mae’n bosibl y bydd ffotograffau a fideos yn cael eu cymryd yn ein digwyddiadau. Trwy archebu lle yn ein digwyddiad, rydych yn rhoi hawliau llawn i ni (Undeb Myfyrwyr PCyDDS) ddefnyddio’r delweddau sy’n deillio o hynny. Os nad ydych yn dymuno cael eich llun wedi’i dynnu, rhowch wybod i ni trwy gysylltu neu siarad â'r ffotograffydd ar y safle.
Gallwch weld ein hysbysiad preifatrwydd yn llawn ar ein gwefan.