Creu a Chymysgu gyda Rainna

  • Christmas card

Creu a Chymysgu gyda Rainna

Gwneud Cardiau Gwyliau a Phaentio Addurniadau!

Nos Iau 27ain Tachwedd 2025, 17:30 – 19:30
Dyma'ch cyfle i dreulio amser gyda Llywydd eich campws a bod yn greadigol wrth Roi Cynnig Arni, a mynd ati i Greu a Chymysgu gyda Rainna!
Ymunwch â ni am noson o wneud cardiau Nadoligaidd a phaentio addurniadau, lle gallwch chi ddylunio eich cardiau gwyliau eich hun i'w rhannu gyda ffrindiau a theulu a gwneud addurn hardd ar gyfer eich coeden!
Byddwn yn darparu'r cardiau, yr amlenni, yr addurniadau, amrywiaeth o ddeunyddiau crefft, a hyd yn oed stamp fel y gallwch chi anfon eich cerdyn at anwyliaid a allai fod ymhell i ffwrdd. 
Gallwch gadw'ch dyluniadau'n syml neu fynd ati o ddifri gyda glitter a rhubanau.
Dyma gyfle gwych i ymlacio cyn gwyliau'r gaeaf a chreu rhywbeth arbennig.
Mae'r digwyddiad hwn yn agored i blant sydd yng nghwmni eu rhiant neu warcheidwad, ond nodwch mai chi sy'n gyfrifol amdanynt ac nid Undeb y Myfyrwyr. Nodwch y bydd lleoedd ar gyfer plant yn gyfyngedig gan fod yn rhaid i ni roi ein demograffeg myfyrwyr yn gyntaf.

Tocynnau
Mae hwn yn ddigwyddiad am ddim i bob myfyriwr, ond mae lleoedd yn gyfyngedig felly mae angen archebu.

Y Cynllun
Cyrraedd Undeb y Myfyrwyr am 17:30.
Cewch wneud cynifer o gardiau ag y dymunwch, gyda digon o amser i fod yn greadigol.
Bydd y noson yn dod i ben tua 19:30.

Hygyrchedd
Cynhelir y digwyddiad hwn dan-do mewn ystafell hygyrch i gadeiriau olwyn ar y campws.
Bydd byrddau a chadeiriau’n cael eu darparu.
Bydd cerddoriaeth yn cael ei chwarae’n isel gydol yr amser.

Gwybodaeth Bwysig
Darperir yr holl ddeunyddiau.
1 stamp y pen. 

 

Lleoliad/Amser

Lleoliad : SU Snug, Dylan Thomas Centre

Math: Rhowch Gynnig Arni, Rhowch Gynnig Arni Abertawe, Abertawe

Dyddiad dechrau: Dydd Iau 27-11-2025 - 17:30

Dyddiad gorffen: Dydd Iau 27-11-2025 - 19:30

Manylion cyswllt

SU Opps Team

Suopportunities@uwtsd.ac.uk

Telerau ac amodau

Clic yma i weld y telerau ac amodau