Creu a Chymysgu gyda Rainna (Abertawe)

  • Make and mingle swansea

Creu a Chymysgu gyda Rainna (Abertawe)

Thema'r Digwyddiad: Dathlu’r Flwyddyn Newydd Tsieineaidd
Ble: Cwtsh yr UM, Canolfan Dylan Thomas
Pryd: Dydd Iau 26ain Chwefror
Amser: 5pm tan 7pm


 
Dewch i ymuno â ni i ddathlu’r Flwyddyn Newydd Tsieineaidd gyda digwyddiad diwylliannol creadigol sy'n archwilio celfyddydau traddodiadol Tsieina.

Bydd cyfle gan fyfyrwyr i ysgrifennu'r cymeriad “Fu” (福) - symbol o lwc dda - gan ddefnyddio caligraffi Tsieineaidd. Yn ôl traddodiad Tsieina, mae'r cymeriad "Fu" yn cael ei arddangos ar ddrysau neu ffenestri yn ystod y Flwyddyn Newydd i wahodd lwc a bendithion i'r cartref.


Gan mai Blwyddyn y Ceffyl yw'r flwyddyn nesaf, bydd y digwyddiad hefyd yn tynnu sylw at themâu egni, bywiogrwydd a dechreuadau newydd. Yn ogystal, gall myfyrwyr beintio gwyntyll papur addurniadol gan ddefnyddio technegau peintio Tsieineaidd traddodiadol.


Mae'r profiad hamddenol, ymarferol hwn yn agored i bawb, ac nid oes angen cefndir artistig - dim ond chwilfrydedd a pharodrwydd i roi cynnig ar rywbeth newydd.
 
Pethau i'w nodi:

  • Cynhelir y digwyddiad hwn dan-do mewn lleoliad hygyrch i gadeiriau olwyn ar y campws.
  • Bydd byrddau a chadeiriau’n cael eu darparu.
  • Bydd cerddoriaeth yn cael ei chwarae ar lefel isel.
  • Rydym yn argymell gwisgo dillad nad oes ots gennych chi gael paent/inc arnynt.
  • Mae'r digwyddiad hwn yn agored i blant sydd yng nghwmni eu rhiant neu warcheidwad, ond nodwch mai chi sy'n gyfrifol amdanynt ac nid Undeb y Myfyrwyr. Nodwch y bydd lleoedd ar gyfer plant yn gyfyngedig gan fod yn rhaid i ni roi blaenoriaeth i’n demograffeg myfyrwyr.
     

Lleoliad/Amser

Lleoliad : SU Snug, Dylan Thomas Centre

Math: Rhowch Gynnig Arni, Rhowch Gynnig Arni Abertawe, Abertawe

Dyddiad dechrau: Dydd Iau 26-02-2026 - 17:00

Dyddiad gorffen: Dydd Iau 26-02-2026 - 19:00

Nifer y lleoedd: 20

Manylion cyswllt

Rebecca

suopportunities@uwtsd.ac.uk

Telerau ac amodau

Clic yma i weld y telerau ac amodau