Eisiau dod i adnabod eich UM a phwy ydym ni? Yna galwch heibio i ddod i adnabod ein tîm staff gwych yng Nghaerfyrddin a deall sut y gallwn eich helpu i gael y gorau o'ch profiad prifysgol.
Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau ynghylch pa grwpiau myfyrwyr y gallwch chi ymwneud â nhw, neu sut allwch chi gynrychioli eich llais myfyriwr neu hyd yn oed sut allwch chi gymryd rhan ym mywyd myfyrwyr yn y brifysgol, yna galwch heibio am sgwrs a byddwn yn hapus i drafod yr hyn a wnawn i gefnogi myfyrwyr a gwella eu profiad yn y brifysgol. Efallai y bydd yna un neu ddau o bethau blasus am ddim ar gael hefyd, felly gwnewch yn siŵr eich bod chi'n galw heibio!
Digwyddiad drws-agored yw hwn; treuliwch gymaint o amser ag y mynnwch yn Undeb y Myfyrwyr, o helo cyflym i'r sesiwn lawn!
Lleoliad : Y LLoft, UWTSD Students' Union, Carmarthen
Math: Caerfyrddin, Glasfyfyrwyr, Glasfyfyrwyr Caerfyrddin
Dyddiad dechrau: Dydd Sadwrn 20-09-2025 - 10:00
Dyddiad gorffen: Dydd Sadwrn 20-09-2025 - 14:00
Nifer y lleoedd: 50
SU Opportunities
suopportunities@uwtsd.ac.uk
Clic yma i weld y telerau ac amodau
Mae lleoedd yn gyfyngedig ar gyfer rhai digwyddiadau. Os oes botwm Archebwch Nawr yn ymddangos o fewn y disgrifiad, mae'n rhaid i chi gofrestru cyn y gallwch fynychu. Ar gyfer y digwyddiadau hyn, archebwch le dim ond os ydych chi'n gwybod y gallwch chi fod yn bresennol. Gallwch hefyd roi gwybod i ni os na allwch fynychu fel y gallwn gynnig eich lle i rywun arall.
Ni ellir ad-dalu cost tocynnau ar gyfer digwyddiad a ffioedd archebu, oni bai;
Eich bod yn rhoi o leiaf deg diwrnod gwaith o rybudd i ni
Rydym yn gohirio neu’n canslo'r digwyddiad.
Cysylltwch â ni yn union@uwtsd.ac.uk i drafod eich archeb.
Mae’n bosibl y bydd ffotograffau a fideos yn cael eu cymryd yn ein digwyddiadau. Trwy archebu lle yn ein digwyddiad, rydych yn rhoi hawliau llawn i ni (Undeb Myfyrwyr PCyDDS) ddefnyddio’r delweddau sy’n deillio o hynny. Os nad ydych yn dymuno cael eich llun wedi’i dynnu, rhowch wybod i ni trwy gysylltu neu siarad â'r ffotograffydd ar y safle.
Gallwch weld ein hysbysiad preifatrwydd yn llawn ar ein gwefan.