Dewch i gwrdd â'ch Undeb Myfyrwyr

  • Freshers event thumbnails carms

Dewch i gwrdd â'ch Undeb Myfyrwyr

Awydd mynd allan o'r neuaddau a dod i adnabod eich gofod UM ychydig yn well? Beth am alw heibio a chael paned gyda ni! Os nad ydych chi’n un am de a choffi, beth am roi cynnig ar ein curo ni ar y Play Station 5?  

  

Manteisiwch i'r eithaf ar ofod cymdeithasol campws Caerfyrddin, Y Llofft, ble gallwch chi gwrdd ag eraill, chwarae ping-pong neu pŵl, a rhoi cynnig ar y Play Station, sydd am ddim. Dyma le i fyfyrwyr ddod i ymlacio, mwynhau eu hunain a gwneud y gorau o’u hamser rhydd, felly gwnewch yn siŵr eich bod chi'n galw heibio ac yn dod i adnabod y lle!  

  

Digwyddiad drws-agored yw hwn; gallwch dreulio cymaint o amser ag y mynnwch yn Undeb y Myfyrwyr, o helo cyflym i aros trwy'r dydd. 

Lleoliad/Amser

Lleoliad : Y LLoft, UWTSD Students' Union, Carmarthen

Math: Caerfyrddin, Glasfyfyrwyr, Glasfyfyrwyr Caerfyrddin

Dyddiad dechrau: Dydd Sadwrn 20-09-2025 - 18:00

Dyddiad gorffen: Dydd Sadwrn 20-09-2025 - 21:00

Nifer y lleoedd: 50

Manylion cyswllt

SU Opportunities

suopportunities@uwtsd.ac.uk

Telerau ac amodau

Clic yma i weld y telerau ac amodau