Blwyddyn Newydd, Digwyddiad Cymdeithasol Newydd!

  • Karaoke icon

Blwyddyn Newydd, Digwyddiad Cymdeithasol Newydd!

Dyddiad ac Amser: 27ain Ionawr, 6pm tan 9pm
Lleoliad: Sessions gan Fragdy’r Mwmbwls, 38 - 39 Stryd y Castell, Abertawe SA1 1HZ
Cost: £1
Tocynnau: Cofrestrwch am eich tocyn yma: mae cyfyngiadau ar niferoedd 

 

Gall dychwelyd ar ôl gwyliau'r gaeaf beri cryn straen. Mae'r digwyddiadau hyn wedi'u cynllunio i'ch helpu chi i ail-gysylltu, cymdeithasu, rhoi cynnig ar rywbeth newydd a threchu'r felan y gaeaf hwn - fel y gallwch chi deimlo'n fwy fel chi eich hun unwaith eto #Trechu'rFelan

Gall Ionawr fod yn fis oer a heriol i lawer. Ar ôl gwyliau'r gaeaf, efallai eich bod chi'n dychwelyd i arholiadau, terfynau amser ar gyfer cyflwyno gwaith, neu amserlen brifysgol brysur - ac efallai nad ydych chi wedi cael llawer o gyfle i gymdeithasu'n ddiweddar. Os yw’r felan yn dechrau cael gafael arnoch chi ym mis Ionawr, mae'r digwyddiad hwn yma i helpu.

Ymunwch â ni ym mar Sessions am noson gymdeithasol ag iddi thema las wedi'i chynllunio i godi calon a dechrau'r flwyddyn ar nodyn cadarnhaol. Gwisgwch las os ydych chi am wneud hynny - ond does dim rhaid i chi. Bydd gennym ni ardal breifat ar y llawr isaf gyda bwffe bach, ynghyd â gemau, lle i gymdeithasu, a karaoke i unrhyw un sy'n teimlo'n ddewr.

P'un a ydych chi'n dod gyda ffrindiau, cyd-fyfyrwyr o’ch cwrs neu ar eich pen eich hun i gwrdd â phobl newydd, mae hwn yn gyfle hamddenol i ymlacio, cael hwyl, a chymryd seibiant o straen bywyd prifysgol. Gyda diodydd fforddiadwy ac awyrgylch croesawgar, dyma'r ffordd berffaith o fwrw cysgodion mis Ionawr a dechrau'r flwyddyn newydd yn hamddenol.

Byddem wrth ein bodd eich gweld chi yno!

Lleoliad/Amser

Lleoliad : Sessions by Mumbles Brewery, 38 - 39 Castle St, Swansea SA1 1HZ

Math: Rhowch Gynnig Arni, Rhowch Gynnig Arni Abertawe, Abertawe

Dyddiad dechrau: Dydd Iau 29-01-2026 - 18:00

Dyddiad gorffen: Dydd Iau 29-01-2026 - 21:00

Manylion cyswllt

Rebecca

suopportunities@uwtsd.ac.uk

Telerau ac amodau

Clic yma i weld y telerau ac amodau