Cofrestrwch ar gyfer y Prosiect Plannu Bach

  • Hello i m nik asrayhikohk unsplash

Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben neu nid yw'r digwyddiad bellach ar gael.

Cofrestrwch ar gyfer y Prosiect Plannu Bach

Mae'r "Prosiect Plannu Bach" yn gynllun plannu a fydd yn rhoi cyfle i bob myfyriwr dyfu rhywfaint o hadau gartref. Cofrestrwch, a byddwn yn danfon pridd a hadau am ddim i chi, fel y gallwch chi dyfu planhigion a fydd o fudd i'n peillwyr a'n lles meddyliol a chorfforol.

Ysbrydolwyd y Prosiect Plannu Bach gan y prosiect poblogaidd “Plannu Mawr” na allai, yn anffodus, ddigwydd eleni oherwydd cyfyngiadau’r pandemig. Mae'r prosiect yn rhan o ymgyrch ehangach "Wythnos Werdd" y brifysgol, a fydd yn digwydd y mis nesaf.

 

Pam ddylwn i gyfranogi?

 

I wella'ch iechyd meddwl...

Mae planhigion yn enwog am eu llu o fuddion o ran iechyd corfforol a meddyliol; o wella ansawdd aer dan do i leddfu straen a phryder.

 

I gynyddu ymwybyddiaeth amgylcheddol yn PCyDDS...

Mae'n gyfle i gymryd rhan mewn prosiect sydd â’r nod o gynyddu ymwybyddiaeth ynghylch materion amgylcheddol a bioamrywiaeth, rhoi cyfle i ymgysylltu yn y gymuned myfyrwyr ehangach a chynnwys cymaint o fyfyrwyr ar draws campysau PCyDDS o bob demograffeg.

 

I ennill ein cystadleuaeth Blodyn yr Haul...

Plannwch flodyn yr haul (bydd hadau blodyn yr haul yn cael eu cynnwys yn eich pecyn plannu bach) ac ewch ati i’w dyfu. Postiwch lun ohonoch chi'n plannu neu'n tyfu eich eginblanhigyn ar 1af Mai, sef diwrnod Blodyn Haul y Byd; tagiwch hwn gyda #UWTSDSULittleBigPlant a byddwch chi'n cael eich cynnwys mewn cystadleuaeth i ennill taleb garddio.

 

Dwi wedi cael fy argyhoeddi; sut mae cael gafael ar Becyn Plannu Bach?

Mae'n hawdd. Cofrestrwch yma cyn dydd Gwener 9fed Ebrill, ac fe anfonwn Becyn Plannu Bach atoch AM DDIM!

 

Bydd eich pecyn yn cael ei bostio rhwng y 12fed a'r 26ain Ebrill. Dim ond 50 sydd ar gael.

 

Bydd eich pecyn yn cynnwys hadau ar gyfer 'Gwenyn a Glöyn Byw', 'Hadau ar Hap’ a hadau Blodyn yr Haul. Disgiau pridd a thaflen arweiniad ar gyfer tyfu i helpu'ch planhigion i ffynnu.

 

Y cyfan sydd angen i chi ei wneud yw dod o hyd i rywbeth addas i dyfu eich hadau ynddo. Beth am fod yn greadigol ac ailddefnyddio rhywbeth sydd gennych chi o amgylch y tŷ? Meddyliwch am hen esgidiau glaw, tebot efallai, neu yn oed hen ganiau tun - llawer gwell na photiau plastig diddychymyg (sy’n llai cydnaws â’r amgylchedd).

 

Mae hwn yn brosiect bach gwych yr ydym yn wirioneddol angerddol yn ei gylch, ac rydym yn gobeithio y byddwch chi hefyd! Waeth pa gampws rydych chi'n perthyn iddo, os ydych chi gartref, pa fath o fyfyriwr ydych chi, neu hyd yn oed os nad oes gennych chi ardd, gallwch chi gymryd rhan! Er mwyn Cariad at y Gwenyn, rydyn ni wir yn eich annog chi i gymryd rhan!

Lleoliad/Amser

Lleoliad : Online

Math: Birmingham, Caerdydd, Caerfyrddin, Ar-lein, Llambed, Llundain, Abertawe

Dyddiad dechrau: Dydd Iau 01-04-2021 - 00:00

Dyddiad gorffen: Dydd Mawrth 13-04-2021 - 09:00

Nifer y lleoedd: 100

Manylion cyswllt

Laura Yates

laura.yates@uwtsd.ac.uk

Telerau ac amodau

Clic yma i weld y telerau ac amodau