Dechreuwch eich blwyddyn gyda chreadigrwydd a hunanfynegiant!
Ymunwch â ni yn Undeb y Myfyrwyr i ddylunio eich arwydd wal neu ddrws personol — p'un a yw'n dweud Croeso, Peidiwch â Tharfu, eich enw neu rywbeth arall.
Gwnewch yn siŵr bod eich arwydd yn cyd-fynd â chi a'i fod yn mynegi’r teimlad a'r naws rydych chi'n chwilio amdanynt i'ch ystafell/cartref newydd.
Gweithgaredd hamddenol yw hwn a fydd yn rhoi cyfle i chi gwrdd â myfyrwyr eraill a sgwrsio gyda nhw a ni yn Undeb y Myfyrwyr.
Nodwch:
• Bydd aelod o Undeb y Myfyrwyr yn aros yn y dderbynfa i'ch helpu i ddod o hyd i'r lleoliad os mai dyma'ch tro cyntaf i ymweld â ni.
• Gwisgwch ddillad nad oes ots gennych chi eu bod nhw'n mynd yn fudr; byddwn ni'n defnyddio pennau blaen ffelt a phaent, felly efallai y byddwch chi'n cael rhywbeth ar eich dillad.
Gwybodaeth bwysig:
• Mae Cwtsh yr UM wedi’i leoli ym mhen draw coridor Undeb y Myfyrwyr yng Nghanolfan Dylan Thomas. Mae hon yn ystafell ar y llawr gwaelod y gellir cael mynediad iddi gyda'ch cerdyn myfyriwr; mae toiledau a chyfleusterau cegin ar gael.
• Digwyddiad i fyfyrwyr yn unig yw hwn; peidiwch â dod ag unrhyw un nad yw'n mynychu PCyDDS fel myfyriwr gyda chi.
• Efallai y bydd gennym fyrbrydau a diodydd ar gael, ond nodwch y bydd angen i chi ddarllen y labeli i wirio am unrhyw alergen os oes gennych chi alergeddau neu anghenion dietegol.
Lleoliad : The Students' Union, Dylan Thomas Centre
Math: Glasfyfyrwyr Abertawe , Abertawe
Dyddiad dechrau: Dydd Sadwrn 20-09-2025 - 14:00
Dyddiad gorffen: Dydd Sadwrn 20-09-2025 - 16:00
Nifer y lleoedd: 24
Rebecca
suopportunities@uwtsd.ac.uk
Clic yma i weld y telerau ac amodau
Mae lleoedd yn gyfyngedig ar gyfer rhai digwyddiadau. Os oes botwm Archebwch Nawr yn ymddangos o fewn y disgrifiad, mae'n rhaid i chi gofrestru cyn y gallwch fynychu. Ar gyfer y digwyddiadau hyn, archebwch le dim ond os ydych chi'n gwybod y gallwch chi fod yn bresennol. Gallwch hefyd roi gwybod i ni os na allwch fynychu fel y gallwn gynnig eich lle i rywun arall.
Ni ellir ad-dalu cost tocynnau ar gyfer digwyddiad a ffioedd archebu, oni bai;
Eich bod yn rhoi o leiaf deg diwrnod gwaith o rybudd i ni
Rydym yn gohirio neu’n canslo'r digwyddiad.
Cysylltwch â ni yn union@uwtsd.ac.uk i drafod eich archeb.
Mae’n bosibl y bydd ffotograffau a fideos yn cael eu cymryd yn ein digwyddiadau. Trwy archebu lle yn ein digwyddiad, rydych yn rhoi hawliau llawn i ni (Undeb Myfyrwyr PCyDDS) ddefnyddio’r delweddau sy’n deillio o hynny. Os nad ydych yn dymuno cael eich llun wedi’i dynnu, rhowch wybod i ni trwy gysylltu neu siarad â'r ffotograffydd ar y safle.
Gallwch weld ein hysbysiad preifatrwydd yn llawn ar ein gwefan.