Llethrau Sgïo gyda Chwaraeon Eira

  • Refreshers thumbnails15

Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben neu nid yw'r digwyddiad bellach ar gael.

Llethrau Sgïo gyda Chwaraeon Eira


 

Galw ar bob Sgïwr, neu’r rhai sydd am roi cynnig ar Chwaraeon Eira!
 
Mae Cymdeithas Chwaraeon Eira’r DDS, sef clwb myfyrwyr traws-gampws, yn cynnal eu sesiwn flasu sgïo gyntaf y flwyddyn 2025 ym Mharc Gwledig Pen-bre.
 
Mae cyfle i sgïo neu eirafyrddio; gallwch fynd ati i fwynhau’r gweithgareddau hyn, neu os ydych chi’n newydd i'r gamp, gallwch ymuno â gwers.
 
Os ydych chi am gymryd rhan, yna pwyswch y botwm "archebu nawr".

 

Archebwch cyn yr 22ain Ionawr os nad ydych erioed wedi sgïo o’r blaen


 
Cyrraedd yno 


 
Bydd yn rhaid i chi naill ai yrru i'r sesiynau hyn neu ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus (bws/trên), felly gwnewch yn siŵr eich bod yn gallu gwneud hyn cyn archebu lle.


 
 
Cost y gweithgaredd 


 
Mae tocynnau i’r rhai nad ydynt yn aelodau yn £14:50. Rydym yn rhannu lifftiau i’r llethrau, felly mae croeso i chi anfon neges at ein pwyllgor i roi gwybod i ni os oes angen lifft arnoch neu os ydych yn hapus i rannu ceir. 
 
Cynhelir y sesiwn nos Fercher 12ain Chwefror, rhwng 7pm a 9pm. Bydd angen i chi gyrraedd ychydig yn gynharach er mwyn cael eich cit ymlaen.
Rhaid i'ch breichiau a'ch coesau fod wedi’u gorchuddio’n llawn a rhaid i chi hefyd wisgo menig; os oes angen helmed arnoch mae helmedau ar y safle y gallwch eu benthyca.
 
Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am y sesiwn hon neu os oes angen mwy o fanylion arnoch ynghylch teithio i’r safle ac oddi yno, cysylltwch â’r gymdeithas Chwaraeon Eira neu Gyfleoedd Myfyrwyr.
 
Fe welwn ni chi ar y llethr!
 

Lleoliad/Amser

Lleoliad : Pembrey Ski Slope

Math: Clwbiau a Cymdeithasau, Clwbiau a Cymdeithasau Abertawe, Croeso, Abertawe , Abertawe

Dyddiad dechrau: Dydd Mercher 29-01-2025 - 19:00

Dyddiad gorffen: Dydd Mercher 12-02-2025 - 21:00

Manylion cyswllt

Rebecca

suopportunities@uwtsd.ac.uk

Telerau ac amodau

Clic yma i weld y telerau ac amodau