Wythnos Sgiliau | Adeiladu Eich Proffil LinkedIn

  • Skills week thumbnails6

Wythnos Sgiliau | Adeiladu Eich Proffil LinkedIn

6pm Dydd Mawrth 7fed Mai, Tŷ Haywood, Ystafell Ddosbarth 1

Adeiladu Eich Proffil LinkedIn  

Ymunwch â'r sesiwn ymarferol hon ble byddwn yn mynd â chi gam wrth gam trwy lenwi'ch proffil LinkedIn er mwyn llwyddo! Mae LinkedIn yn blatfform cyfryngau cymdeithasol sy'n canolbwyntio ar gyflogaeth ble gallwch chi chwilio am y swydd neu'r interniaeth sy’n iawn i chi. Gallwch greu cysylltiadau a chryfhau perthnasoedd proffesiynol, a dysgu'r sgiliau sydd eu hangen arnoch i lwyddo yn eich gyrfa.  

Bydd y sesiwn hon yn ymdrin â’r canlynol: 

  • Beth yw diben pob adran ar broffil a pha fath o wybodaeth ddylech chi ei defnyddio. 
  • Sut i wneud i'ch proffil sefyll allan i recriwtwyr  
  • Pwysigrwydd defnyddio geiriau allweddol trwy gydol eich proffil 
     

Os nad oes gennych Broffil LinkedIn wedi'i sefydlu eto, gwnewch hyn cyn y gweithdy, os gwelwch yn dda. Gallwch chi sefydlu cyfrif ar eich ffôn symudol neu liniadur. 

Eisoes wedi sefydlu proffil? Gallwch chi ymuno â ni o hyd a dysgu sut i fireinio'ch proffil a dysgu am yr hyn y mae recriwtwyr yn chwilio amdano. 

Lleoliad/Amser

Lleoliad : Haywood House, Classroom 1

Math: Caerdydd, Skills Week

Dyddiad dechrau: Dydd Mawrth 07-05-2024 - 18:00

Dyddiad gorffen: Dydd Mawrth 07-05-2024 - 19:00

Manylion cyswllt

Student Opportunities

suopportunities@uwtsd.ac.uk

Telerau ac amodau

Clic yma i weld y telerau ac amodau