Ymweliad â Marchnad Nadolig Caerdydd!

  • Cardiff market thumbnail

Ymweliad â Marchnad Nadolig Caerdydd!

Dewch i ymuno â thaith siopa Nadolig Rhowch Gynnig Arni i Farchnad Nadolig Caerdydd. Does dim ffordd well o fynd i ysbryd y Nadolig nag ymweld â Marchnad Nadolig. Â'r stondinau'n amrywio o emwaith, sebonau, celf a chrefft wedi'u gwneud â llaw, ac wrth gwrs amrywiaeth eang o stondinau bwyd Nadoligaidd, mae rhywbeth at ddant pawb yn bendant; p'un a ydych chi’n chwilio am anrhegion Nadolig neu'n ffansio ymweld â rhywle newydd, mae digonedd i'w wneud. Mae rhestr lawn o’r stondinau i’w gweld ar Wefan Marchnad Nadolig Caerdydd Y Farchnad

Mae digon i bawb ei fwynhau ym Marchnad Nadolig Caerdydd wrth fynd i ysbryd y Nadolig. Cofiwch ddod â dillad cynnes gyda chi, gan y bydd hi'n ddiwrnod hir yn yr awyr agored, a gall y tywydd fod yn oer. Gwnewch yn siŵr eich bod yn cael gafael ar eich tocynnau’n gynnar, gan mai dim ond nifer cyfyngedig sydd ar gael.

Bydd y bws yn gadael Campws Caerfyrddin am 10am a Champws Abertawe am 10:45am. Byddwn yn gadael Caerdydd am 4pm.

Lleoliad/Amser

Lleoliad : Cardiff Christmas Market

Math: Caerfyrddin, Rhowch Gynnig Arni, Rhowch Gynnig Arni Caerfyrddin , Rhowch Gynnig Arni Abertawe, Abertawe

Dyddiad dechrau: Dydd Sadwrn 21-11-2026 - 10:00

Dyddiad gorffen: Dydd Sadwrn 21-11-2026 - 16:00

Manylion cyswllt

SU Opportunities

SU.Opps@uwtsd.ac.uk

Telerau ac amodau

Clic yma i weld y telerau ac amodau