Lleoliad: Caffi Dinefwr
Amser: 12pm tan 2pm
Dyddiad: Dydd Mawrth 23ain Medi
Dewch Draw am Sgwrs — eich cyfle hamddenol ar y campws i gwrdd â'ch Undeb Myfyrwyr mewn lleoliad tawel, heb unrhyw bwysau.
P'un a ydych chi'n fyfyriwr newydd sy'n awyddus i setlo i mewn neu'n un sy'n dychwelyd ac eisiau dal i fyny, galwch heibio am ddiod neu rywbeth i’w fwyta (fe gewch chi benderfynu!) a sgwrs gyfeillgar. Rydyn ni yma i glywed sut mae pethau'n mynd, ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych chi, a helpu gyda phopeth o sefydlu cymdeithasau neu grwpiau myfyrwyr i siarad am gynrychiolaeth neu gynnig cyngor cyfrinachol am ddim.
Os yw'n rhywbeth na allwn ni helpu i’w ddatrys yn uniongyrchol, byddwn ni'n eich cyfeirio at rywun a all helpu - heb unrhyw bwysau arnoch chi.
Bydd Rainna, Llywydd Caerdydd ac Abertawe, o gwmpas hefyd, yn barod i gwrdd â chi a chlywed beth sy'n bwysig i chi.
Does dim angen cofrestru, does dim pwysau. Galwch heibio, mynnwch damaid i'w fwyta (neu beidio!), a dod i'n hadnabod ni ychydig yn well — rydyn ni'n edrych ymlaen at ddod i'ch adnabod chi hefyd.
• Bydd lluniaeth ar gael ar sail y cyntaf i'r felin.
• Bydd staff o Undeb y Myfyrwyr ar gael i siarad â nhw gydol yr amser.
• Does mo’r fath beth â chwestiwn twp
• Byddwn yn ei gwneud hi'n amlwg pwy ydyn ni trwy wisgo dillad â brand yr UM a bydd ein baner borffor wedi’i gosod hefyd.
Rydym yn ceisio darparu ar gyfer pob gofyniad dietegol ac alergedd, ac ymddiheurwn ymlaen llaw os nad ydym yn cyflawni eich disgwyliadau'n llwyr neu os byddwn yn rhedeg allan o gynnyrch y gallech fod wedi bod ei angen.
Lleoliad : Dynevor Cafe
Math: Glasfyfyrwyr, Glasfyfyrwyr Abertawe , Abertawe
Dyddiad dechrau: Dydd Mawrth 23-09-2025 - 12:00
Dyddiad gorffen: Dydd Mawrth 23-09-2025 - 14:00
Rebecca
suopportunities@uwtsd.ac.uk
Clic yma i weld y telerau ac amodau
Mae lleoedd yn gyfyngedig ar gyfer rhai digwyddiadau. Os oes botwm Archebwch Nawr yn ymddangos o fewn y disgrifiad, mae'n rhaid i chi gofrestru cyn y gallwch fynychu. Ar gyfer y digwyddiadau hyn, archebwch le dim ond os ydych chi'n gwybod y gallwch chi fod yn bresennol. Gallwch hefyd roi gwybod i ni os na allwch fynychu fel y gallwn gynnig eich lle i rywun arall.
Ni ellir ad-dalu cost tocynnau ar gyfer digwyddiad a ffioedd archebu, oni bai;
Eich bod yn rhoi o leiaf deg diwrnod gwaith o rybudd i ni
Rydym yn gohirio neu’n canslo'r digwyddiad.
Cysylltwch â ni yn union@uwtsd.ac.uk i drafod eich archeb.
Mae’n bosibl y bydd ffotograffau a fideos yn cael eu cymryd yn ein digwyddiadau. Trwy archebu lle yn ein digwyddiad, rydych yn rhoi hawliau llawn i ni (Undeb Myfyrwyr PCyDDS) ddefnyddio’r delweddau sy’n deillio o hynny. Os nad ydych yn dymuno cael eich llun wedi’i dynnu, rhowch wybod i ni trwy gysylltu neu siarad â'r ffotograffydd ar y safle.
Gallwch weld ein hysbysiad preifatrwydd yn llawn ar ein gwefan.