Digwyddiad: Argraffu Cardiau Dydd San Ffolant
Ble: Cwtsh yr UM, Canolfan Dylan Thomas
Pryd: Dydd Mawrth 10fed Chwefror
Amser: 16:00pm - 19:00pm
Cost: Am ddim
Ymunwch â ni am Weithdy Argraffu Cardiau Dydd San Ffolant hamddenol a chreadigol, lle byddwch chi'n dysgu’r grefft o argraffu bloc - dull argraffu tecstilau a phapur traddodiadol a ddechreuodd yn Tsieina ac a ddaeth yn boblogaidd yn India yn ddiweddarach.
Bydd y gweithdy hwn yn cael ei gynnal gan un o'n myfyrwyr ein hunain, Simeon, sy'n rhedeg y busnes creadigol hwn ochr-yn-ochr â'i astudiaethau. Bydd cyfle gan gyfranogwyr i ddylunio a cherfio eu blociau argraffu eu hunain neu ddefnyddio rhai parod, yna creu cardiau Dydd San Ffolant personol ar gyfer ffrind, aelod o'r teulu, anwylyd, neu rywun arbennig.
Gall pawb sy’n mynychu’r sesiwn wneud hyd at dri cherdyn, eu personoli gan ddefnyddio stampiau llythrennau, a mynd â'u stamp adref er mwyn dal ati i greu.
Er mwyn creu awyrgylch hamddenol a chroesawgar, bydd cerddoriaeth yn chwarae drwy gydol y noson, a bydd siocledi ar gael ynghyd â prosecco a dewis amgen di-alcohol. Bydd y pwyslais ar gael hwyl, bod yn greadigol, ymlacio, a dod i adnabod cyd-fyfyrwyr.
Does dim angen profiad blaenorol - dewch draw a mwynhewch roi cynnig ar rywbeth newydd.






Lleoliad : SU Snug, Dylan Thomas Centre
Math: Rhowch Gynnig Arni, Rhowch Gynnig Arni Abertawe, Abertawe
Dyddiad dechrau: Dydd Mawrth 10-02-2026 - 16:00
Dyddiad gorffen: Dydd Mawrth 10-02-2026 - 19:00
Rebecca
suopportunities@uwtsd.ac.uk
Clic yma i weld y telerau ac amodau
Mae lleoedd yn gyfyngedig ar gyfer rhai digwyddiadau. Os oes botwm Archebwch Nawr yn ymddangos o fewn y disgrifiad, mae'n rhaid i chi gofrestru cyn y gallwch fynychu. Ar gyfer y digwyddiadau hyn, archebwch le dim ond os ydych chi'n gwybod y gallwch chi fod yn bresennol. Gallwch hefyd roi gwybod i ni os na allwch fynychu fel y gallwn gynnig eich lle i rywun arall.
Ni ellir ad-dalu cost tocynnau ar gyfer digwyddiad a ffioedd archebu, oni bai;
Eich bod yn rhoi o leiaf deg diwrnod gwaith o rybudd i ni
Rydym yn gohirio neu’n canslo'r digwyddiad.
Cysylltwch â ni yn union@uwtsd.ac.uk i drafod eich archeb.
Mae’n bosibl y bydd ffotograffau a fideos yn cael eu cymryd yn ein digwyddiadau. Trwy archebu lle yn ein digwyddiad, rydych yn rhoi hawliau llawn i ni (Undeb Myfyrwyr PCyDDS) ddefnyddio’r delweddau sy’n deillio o hynny. Os nad ydych yn dymuno cael eich llun wedi’i dynnu, rhowch wybod i ni trwy gysylltu neu siarad â'r ffotograffydd ar y safle.
Gallwch weld ein hysbysiad preifatrwydd yn llawn ar ein gwefan.