Taith Gerdded o amgylch Caerfyrddin

  • Freshers event thumbnails carms15

Taith Gerdded o amgylch Caerfyrddin

Newydd i'r ardal hon? Beth am ymuno ag Undeb y Myfyrwyr ar daith gerdded o amgylch Tref Caerfyrddin? Bydd Tîm Undeb y Myfyrwyr yn cyfarfod y tu allan i Adeilad Undeb y Myfyrwyr am 9.45am ac yn gadael i ddechrau cerdded i'r dref am 10am. 
 
Bydd y tîm yn dangos y ffordd gyflymaf i chi gerdded i mewn i'r dref gan sicrhau eu bod yn dangos i chi ble mae rhai o uchafbwyntiau'r dref, fel ble allwch chi fynd i siopa, rhai o'n hargymhellion ar gyfer ble i gael bwyd da a ble allwch chi ddod o hyd i'ch hanfodion yn yr ardal leol. 
 
Taith gerdded fydd hon, felly gwnewch yn siŵr eich bod yn gwisgo dillad cerdded cyfforddus ac esgidiau pwrpasol. 
 
Mae'r daith hon yn ffordd wych o gwrdd â myfyrwyr eraill sydd hefyd yn newydd i'r ardal ac ymgyfarwyddo â'ch amgylchoedd newydd. Yn yr un modd, os oes gennych chi unrhyw gwestiynau ynghylch ble i ddod o hyd i bethau neu leoedd penodol, bydd ein tîm wrth law i helpu. 
 
Edrychwn ymlaen at fynd ar antur o amgylch Caerfyrddin gyda chi! 

Lleoliad/Amser

Lleoliad : Carmarthen Students' Union

Math: Caerfyrddin, Glasfyfyrwyr, Glasfyfyrwyr Caerfyrddin

Dyddiad dechrau: Dydd Mawrth 23-09-2025 - 10:00

Dyddiad gorffen: Dydd Mawrth 23-09-2025 - 11:30

Nifer y lleoedd: 30

Manylion cyswllt

SU Opportunities

suopportunities@uwtsd.ac.uk

Telerau ac amodau

Clic yma i weld y telerau ac amodau