Wyddech chi fod ysbytai yng Nghymru angen 350 o roddion y dydd er mwyn gallu rhoi cymorth i gleifion mewn angen? Mae rhoi gwaed yn gyflym, yn syml ac yn gwbl ddiogel. A'r rhan orau yw eich bod chi’n achub bywyd!
Awydd gwneud gwahaniaeth mawr? Beth am ddod draw i roi gwaed yn y Sesiynau Rhoi Gwaed ar Gampws Caerfyrddin?
Pwy all roi gwaed?
Mae Gwasanaeth Gwaed Cymru yn annog ac yn croesawu'r rhan fwyaf o oedolion i roi gwaed. Mae yna rai rhesymau pam na all pobl roi gwaed, ond dim cymaint ag y byddai llawer ohonoch chi'n meddwl! Gall unrhyw un sy'n bodloni'r meini prawf isod roi gwaed:
Os ydych chi:
- Rhwng 17 a 66 oed (ar gyfer eich rhodd gyntaf)
- Yn pwyso dros 7 stôn 12 pwys (50kg)
- Yn iach a heb fod yn destun eithriadau meddygol
Os ydych chi'n ansicr a ydych chi yn gallu rhoi gwaed, a’ch bod am gael gwybod mwy, ewch i dudalen A allaf roi gwaed? gwasanaeth gwaed Cymru.
<iframe width="560" height="315" src="https://www.youtube.com/embed/ouDDJpUFJpk?si=6YKPSybLr9szINB3" title="YouTube video player" frameborder="0" allow="accelerometer; autoplay; clipboard-write; encrypted-media; gyroscope; picture-in-picture; web-share" referrerpolicy="strict-origin-when-cross-origin" allowfullscreen></iframe>
Lleoliad : Cothi Suite, Halliwell Centre University of Wales College Road Carmarthen SA31 3EP
Math: Caerfyrddin, Clwbiau a Cymdeithasau Caerfyrddin
Dyddiad dechrau: Dydd Mawrth 21-04-2026 - 09:00
Dyddiad gorffen: Dydd Mawrth 21-04-2026 - 17:00
Student Opportunities Team
suopportunities@uwtsd.ac.uk
Gwefan/URL https://www.welsh-blood.org.uk/
Clic yma i weld y telerau ac amodau
Mae lleoedd yn gyfyngedig ar gyfer rhai digwyddiadau. Os oes botwm Archebwch Nawr yn ymddangos o fewn y disgrifiad, mae'n rhaid i chi gofrestru cyn y gallwch fynychu. Ar gyfer y digwyddiadau hyn, archebwch le dim ond os ydych chi'n gwybod y gallwch chi fod yn bresennol. Gallwch hefyd roi gwybod i ni os na allwch fynychu fel y gallwn gynnig eich lle i rywun arall.
Ni ellir ad-dalu cost tocynnau ar gyfer digwyddiad a ffioedd archebu, oni bai;
Eich bod yn rhoi o leiaf deg diwrnod gwaith o rybudd i ni
Rydym yn gohirio neu’n canslo'r digwyddiad.
Cysylltwch â ni yn union@uwtsd.ac.uk i drafod eich archeb.
Mae’n bosibl y bydd ffotograffau a fideos yn cael eu cymryd yn ein digwyddiadau. Trwy archebu lle yn ein digwyddiad, rydych yn rhoi hawliau llawn i ni (Undeb Myfyrwyr PCyDDS) ddefnyddio’r delweddau sy’n deillio o hynny. Os nad ydych yn dymuno cael eich llun wedi’i dynnu, rhowch wybod i ni trwy gysylltu neu siarad â'r ffotograffydd ar y safle.
Gallwch weld ein hysbysiad preifatrwydd yn llawn ar ein gwefan.