Undeb Myfyrwyr PCYDDS
Eich ffrind sydd wedi cael y profiadau i gyd

Helo, ni yw eich Undeb Myfyrwyr 👋 - y bobl mewn porffor, yma i'ch helpu chi i gael yr amser gorau yn y brifysgol.O'r cais i'r graddio,rydyn ni wrth eich ymyl chi trwy gydol eich taith fel myfyriwr yn y Drindod Dewi Sant! 

Meddyliwch amdanom fel eich ffrind sydd wedi cael y profiadau i gyd Y person y gallwch droi ato ar unrhyw adeg i gael eich grymuso, eich ysbrydoli, eich diddanu, neu os bydd angen help llaw arnoch chi.

Rydych chi eisoes yn aelod! Mae pob myfyriwr sydd wedi ymrestru yn aelod o Undeb y Myfyrwyr yn awtomatig, a hynny am ddim; ac mae eich aelodaeth yn llawn potensial - gadewch i ni eich tywys trwyddo nawr!


  • Meithrin sgiliau a lleisio eich barn
    Bydd cyfle gennych i uwchsgilio gyda hyfforddiant am ddim, er mwyn siarad dros fyfyrwyr trwy ddod yn gynrychiolydd swyddogol, ac i bleidleisio yn ein hetholiadau.

  • Bywyd y tu allan i ddarlithoedd
    Mwynhewch ochr hwyliog a chymdeithasol bywyd myfyrwyr trwy ddilyn eich angerdd a'ch diddordebau gyda'n clybiau a'n cymdeithasau, neu fynd ati i fwynhau eich hun ochr-yn-ochr â'ch cyd-fyfyrwyr yn ein digwyddiadau.

  • Rydym yn addo cadw pethau'n real
    Byddwn yn eich trin fel rhywun cyfartal: rydym yma i wrando, nid i farnu, a dweud wrthych chi sut mae pethau i fod - p'un a oes gennych chi syniad neu os ydych chi angen cyngor.

  • Chi sy'n dewis eich Llywyddion
    Bob blwyddyn, mae gennych gyfle i bleidleisio dros fyfyrwyr sy'n dod yn Llywyddion swyddogol yr Undeb - sy'n helpu i arwain ein gwaith ac yn eich cynrychioli chi i'r brifysgol.

  • Dyma Dafydd
    Draig fawr borffor ydy e. Ac os dewch o hyd iddo ar y campws, mae'n debyg y byddwch chi wedi dod o hyd i ni - gwnewch yn siŵr eich bod yn dod draw i ddweud helo.

Gyda'n gilydd, byddwn yn eich helpu i gysylltu â myfyrwyr eraill, darganfod pwy ydych chi, a dod o hyd i'ch lle yn PCyDDS✌️


Ymunwch â chymuned y myfyrwyr

Dilynwch ni ar Instagram ac ymunwch â'n cymuned ar-lein yn @uwtsdunion a gweld beth mae eich llywyddion yn ei wneud yn @uwtsdsabbs. Gallwch chi hefyd hoffi ein fideos gwirion ar TikTok os dyna’r math o beth rydych chi’n ei hoffi neu neu dilynwch ni ar LinkedIn ar gyfer ein hagwedd fwy difrifol ac am yr hyn s’n digwydd y tu ôl i'r llenni.

Dilynwch hi ar Instagram

Pethau sydd angen i chi fod yn eu gwybod

Rydyn ni’n sylweddoli fod hyn yn llawer o wybodaeth i'w chymryd i mewn. Dyma restr o'r pethau allweddol sydd angen i chi fod yn eu gwybod.

  1. Dydyn ni DDIM yn adran o’r brifysgol - rydym yn elusen annibynnol yma i helpu pob myfyriwr yn PCyDDS.
  2. Mae eich aelodaeth o’r UM am ddim ac yn awtomatig ar ôl i chi ymrestru yn PCyDDS.
  3. Rydym yn falch o gael ein harwain gan fyfyrwyr PCyDDS - rydych chi'n helpu i benderfynu beth rydym yn ei wneud a sut rydym yn ei wneud! Gallwch ddysgu mwy ar ein Tudalen llais.
  4. Mae eich profiad prifysgol yn fwy na dim ond darlithoedd - gwnewch y gorau o’r cyfleoedd gyda'n digwyddiadau, clybiau a chymdeithasau, sesiynau hyfforddi, a mwy! Dysgwch fwy ar ein Tudalen Cyfleoedd..
  5. 5. Gallwch gael cyngor annibynnol a chyfrinachol am ddim gennym ni. Dysgwch fwy ar ein Tudalen Cyngor.

O'r cais i'r graddio, rydyn ni wrth eich ymyl chi

Yn syml, mae undeb myfyrwyr yn ymwneud â phobl. Mae'n cynnwys myfyrwyr, swyddogion a ddewiswyd gan fyfyrwyr, a thîm o staff - pob un yn ymroddedig ac yn cyfrannu at wneud bywyd myfyrwyr yn y Drindod Dewi Sant y gorau y gall fod. Mae gennym ni wahanol dimau yn yr Undeb - Cyfleoedd, Llais, Cynghori, Lleoliadau (a Dylunio a Chyfathrebu, sy'n ysgrifennu hwn) - a byddwn yn darparu amlinelliad o'r hyn y mae pob un yn ei wneud a pham y byddech chi am eu hadnabod.

Llywyddion

Efallai nad ydych chi'n gwybod, dydyn ni ddim yn rhan o'r brifysgol - rydym yn sefydliad ar wahân sy'n gweithio gyda nhw er lles holl fyfyrwyr PCyDDS - rydym yn elusen dan arweiniad myfyrwyr sy’n cael ei arwain gan dîm o Lywyddion a etholwyd gan fyfyrwyr.

Cyfleoedd

Nod ein tîm Cyfleoedd yw darparu hwyl. Mae eich amser fel myfyriwr yn fwy na dim ond darlithoedd, ac fel aelod, gallwch gymryd rhan mewn llwyth o wahanol weithgareddau, gan gynnwys ymuno â chlybiau a chymdeithasau neu fynd ati i’w sefydlu o amgylch diddordeb neu angerdd cyffredin. Gallwch hefyd fynychu ein digwyddiadau (gan gynnwys y Croeso swyddogol), cael profiadau gwych gyda Rhowch Gynnig Arni, a datblygu eich sgiliau a'ch gwybodaeth gyda’r Wythnos Sgiliau.

Llais

Mae ein tîm Llais yn frwd dros sicrhau bod syniadau a barn myfyrwyr yn cael eu trosglwyddo i'r bobl sydd angen eu clywed. Maen nhw'n rheoli ein cynrychiolwyr myfyrwyr (a fyddwch chi'n dod yn un?), yn gofalu am ein platfform Syniadau Mawr, ac yn gyfrifol am bopeth sy'n ymwneud ag etholiadau myfyrwyr.

Gwasanaethau Cynghori

Rydyn ni i gyd angen help weithiau - fel aelod, gallwch chi ddefnyddio ein gwasanaeth cynghori. Mae’n annibynnol, yn gyfrinachol ac am ddim. Rydym am eich grymuso i wneud y penderfyniadau sy'n iawn i chi.

Lleoliadau

Gallwch ddod i'n bariau, clybiau, a lleoliadau. Mae ein hardaloedd a lleoliadau myfyrwyr yn fannau gwych i ymlacio, dal i fyny gyda ffrindiau, chwarae gemau, gwylio’r teledu, a mwynhau nosweithiau allan.

Dylunio & Chyfathrebu

Ac yn olaf, ond nid lleiaf, mae’r adran Ddylunio a Chyfathrebu - yn gweithio gyda'r holl dimau eraill i ledaenu'r gair i gynifer o bobl â phosibl. Fel arfer ni sy'n ysgrifennu cynnwys y cyfryngau cymdeithasol a'r e-byst - mae croeso i chi ddod draw a dweud Helo.

Beth yw'r cam nesaf? 🤔

Dilynwch ni ar-lein i gael y newyddion diweddaraf am ddigwyddiadau, yr hyn sy’n digwydd y tu ôl i'r llenni, a ffyrdd o gymryd rhan - a gwnewch yn siŵr eich bod yn gwirio'ch e-bost myfyriwr am ein cylchlythyr!

  1. Dechreuwch trwy ein dilyn ar Instagram @uwtsdunion
  2. Yna gwyliwch rai o’n fideos ar TikTok  @uwtsdunion

Gallwch hefyd ddod o hyd i ni ar...


Os ydych chi wedi cyrraedd mor bell â hyn, yn gyntaf - diolch. Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau, gallwch estyn allan atom trwy'r cyfryngau cymdeithasol neu trwy e-bostio union@uwtsd.ac.uk a bydd un o'r tîm yn dod yn ôl atoch chi. 💜