Croeso i Gymdeithas Gleddyfa (Llambed)!
Mae'r Gymdeithas hon heb arweinyddiaeth ar hyn o bryd. Ydych chi'n meddwl y gallech chi gymryd yr awenau ac adfywio’r Gymdeithas Gleddyfa yn Llambed? Mae gan y clwb gymysgedd o ddechreuwyr a chleddyfwyr mwy profiadol, felly mae croeso i’r rhai sy’n newydd i’r gamp ymuno â ni.
Mae gan gleddyfa dri arddull: foil, epèe a sabre. Mae ein clwb yn canolbwyntio ar foil, ond mae'n cynnwys epèe a sabre hefyd. Mae'r sesiynau'n amrywio o hyfforddiant un-i-un neu mewn grŵp, yn ogystal â chystadlaethau ymarfer ac en piste.
Mae gennym ni gasgliad eang o offer cleddyfa, gan gynnwys dillad diogelwch ac arfau, sy’n golygu bod modd i chi fynd ati i gleddyfa yn y clwb heb fod yn berchen ar unrhyw offer ymlaen llaw.
Mae'r clwb yn mynd â thîm i Bencampwriaeth Agored Prifysgolion Cymru bob blwyddyn.
Roedd gan Siân, aelod o'r pwyllgor gwaith llynedd, hyn i ddweud am y clwb:
"Dwi wedi mwynhau cleddyfa yn Llambed, gan i mi gael cyfle i gymryd rhan mewn camp oedd o ddiddordeb i mi ers pan oeddwn i'n blentyn. Ar ôl ymarfer, buan iawn oedden ni ar y piste, ar ba bynnag lefel oedden ni arni. Roedd y swyddogion yn gyfeillgar, ac yn ddigon parod i ddarparu cymorth un-i-un, oedd o fudd i mi gan fy mod i ar brydiau'n rhy swil o ofyn am help pan oedden ni'n cael ein dysgu ar y cyd."
Dechreuodd Siân gleddyfa yn Llambed, ac aeth ymlaen i ennill safle cydradd drydydd yng nghystadleuaeth Foil Menywod a'r Dechreuwr Gorau ym Mhencampwriaethau Prifysgolion Cymru 2015, sef y flwyddyn academaidd y dechreuodd ymwneud â'r gamp.
Dyma grynodeb o brofiad hyfforddi ein hyfforddwr Sean Slater: "Dwi wedi bod yn cleddyfa am flynyddoedd lawer, a dechreuais tua 21 mlynedd yn ôl; dwi wedi cleddyfa ar ran y Fyddin, y Gwasanaeth Sifil, ar lefel Hen Law, dros Brydain a Chymru. Fel rhywun a raddiodd o Lambed, dwi wedi bod yn Gapten y tîm Cleddyfa, ac wedi cystadlu ar ran clwb y brifysgol sawl tro. Dwi wedi bod yn hyfforddi'r clwb ers 2000, gydag egwyl fer. Dwi wedi cofrestru ar gyfer hyfforddi tri arf â Chymdeithas Gleddyfa Prydain, a dwi'n Aelod Cysylltiedig o Academi Cleddyfa Prydain. Dwi wedi hyfforddi'n lleol mewn Ysgol Fonedd fawr, yn ogystal â rhedeg a hyfforddi Clwb Tref Llambed, sydd wedi cynhyrchu amryw o gystadleuwyr iau ar lefel cenedlaethol."
Ymunwch â ni!
Yn barod i ymuno? Mae eich diwrnod cyntaf am ddim, fel y gallwch chi roi cynnig arni a gweld sut rydych chi'n teimlo. E-bostiwch ni yn 2207536@student.uwtsd.ac.uk (Llywydd), neu dewch i un o'n sesiynau! Gallwch hefyd daro'r botwm i ddod yn aelod nawr!
Unrhyw ymholiadau neu bryderon? Cysylltwch â ni yn:
Ar gyfer ymholiadau yn ymwneud ag Undeb y Myfyrwyr, cysylltwch â:
Manylion Aelodaeth
Os nad ydych wedi prynu'r aelodaeth hon yn barod, fe'ch anogir i wneud pan fyddwch yn ymuno â'r grŵp hwn.
Pam ddylwn i ymuno?
Cyfryngau Cymdeithasol
Cewch y wybodaeth ddiweddaraf am ein digwyddiadau a gweithgareddau trwy ein dilyn ar:
Digwyddiadau a Chyfarfodydd Cymdeithasol
Ewch i’r Dudalen Ddigwyddiadau
Yr Hyn Rydym yn ei Gynnig
Am ddim ond £10 y flwyddyn i fyfyrwyr PCyDDS ac £11 i’r rhai nad ydynt yn fyfyrwyr, cewch fynediad i’n holl weithgareddau a digwyddiadau. Meddyliwch amdano fel cost un tocyn sinema neu ychydig o baneidiau o goffi am flwyddyn gyfan o hwyl,
Pwyllgor
Mae'r Gymdeithas hon heb arweinyddiaeth ar hyn o bryd. Ydych chi'n meddwl y gallech chi gymryd yr awenau ac adfywio’r Gymdeithas Gleddyfa yn Llambed? E-bostiwch suopportunities@uwtsd.ac.uk am fwy o wybodaeth.
Llywydd - Ieuan Nelson (2312567)
Ysgrifennydd - SWYDD WAG
Trysorydd - SWYDD WAG