Croeso i Gymdeithas Gerddoriaeth Llambed!
Mae Cymdeithas Gerddoriaeth PCyDDS Llambed yma i helpu cerddorion yn PCyDDS i setlo i mewn! Waeth pa offeryn neu pa genre, o Faróc i Jazz i bop Indie, bydd y Gymdeithas Gerdd yno i hwyluso eich creadigrwydd a’ch helpu i ffynnu fel cerddor yn Llambed.
P'un a ydych chi'n chwarae offeryn ar hyn o bryd, neu’n awyddus i ymwneud â cherddoriaeth, dyma'r gymdeithas i chi! Byddwch yn cael mynediad i'n hystafelloedd ymarfer a'n hoffer, yn ogystal â lle i drefnu digwyddiadau ar thema cerddoriaeth i fyfyrwyr.
Rydym yn gobeithio creu amgylchedd croesawgar lle gall cerddorion gyfarfod, ymarfer a chysylltu. Bydd sîn gerddoriaeth fywiog yn cyfoethogi awyrgylch y campws a boddhad myfyrwyr.
Mae Llambed yn naturiol yn denu pobl greadigol a chelfyddydol eu natur; fodd bynnag, tan yn ddiweddar, ychydig o gyfleoedd oedd ar gael ar gyfer mynegiant cerddorol. Rydym yn gobeithio datgloi potensial myfyrwyr a hwyluso dysgu cerddorol yma ym Mhrifysgol hynaf Cymru.
Mae croeso i bawb yn ein cymdeithas, gobeithiwn eich gweld yn fuan! Rydym yn ymarfer yn Celfyddydau 1 ar ddydd Sadwrn o 12.30pm
Ymunwch â ni!
Yn barod i ymuno? Mae eich diwrnod cyntaf am ddim, fel y gallwch chi roi cynnig arni a gweld sut rydych chi'n teimlo.
E-bostiwch ni yn 2305893@student.uwtsd.ac.uk (Llywydd)
Neu 2304020@myfyriwr.uwtsd.ac.uk (Ysgrifennydd)
Neu dewch i un o'n sesiynau! Gallwch hefyd daro'r botwm i ddod yn aelod nawr!
Unrhyw ymholiadau neu bryderon? Cysylltwch â ni yn:
Ar gyfer ymholiadau yn ymwneud ag Undeb y Myfyrwyr, cysylltwch â:
Manylion Aelodaeth
Os nad ydych wedi prynu'r aelodaeth hon yn barod, fe'ch anogir i wneud pan fyddwch yn ymuno â'r grŵp hwn.
Pam ddylwn i ymuno?
Cyfryngau Cymdeithasol
Cewch y wybodaeth ddiweddaraf am ein digwyddiadau a gweithgareddau trwy ein dilyn ar:
Digwyddiadau a Chyfarfodydd Cymdeithasol
Ewch i’r Dudalen Ddigwyddiadau
Yr Hyn Rydym yn ei Gynnig
Am ddim ond £15 y flwyddyn, cewch fynediad i’n holl weithgareddau a digwyddiadau. Meddyliwch amdano fel cost dau docyn sinema neu ychydig o baneidiau o goffi am flwyddyn gyfan o hwyl,
Pwyllgor
Llywydd - Caradoc Ewing (2305893)
Ysgrifennydd - Finley Knowles (2304020)
Trysorydd - Elwyn Jones (2104067)