Gymdeithas Grefftau PCyDDS

  • Craft logo

Disgrifiad

Croeso i Gymdeithas Grefftau PCyDDS!

Rydym yn grŵp o grefftwyr angerddol! Waeth beth yw eich crefft, gwau, crosio, gwnïo neu hyd yn oed gwehyddu, fe gewch gartref croesawgar gyda Chymdeithas Grefftau PCyDDS.

Rydym bob amser yn barod i rannu ein sgiliau gydag aelodau newydd a chefnogi ein gilydd i wella ein crefftau ac ehangu ein gwybodaeth!

Ymunwch â ni!

Yn barod i ymuno? Mae eich diwrnod cyntaf am ddim, fel y gallwch chi roi cynnig arni a gweld sut rydych chi'n teimlo.

E-bostiwch ni yn 2400788@student.uwtsd.ac.uk (Llywydd), neu dewch i un o'n sesiynau! Gallwch hefyd daro'r botwm i ddod yn aelod nawr!

Unrhyw ymholiadau neu bryderon? Cysylltwch â ni yn:

  • Lexin: 2400788@student.uwtsd.ac.uk (Llywydd)
  • Mik: 2405098@student.uwtsd.ac.uk (Trysorydd)
  • Kip: 2400515@student.uwtsd.ac.uk (Ysgrifennydd)

Ar gyfer ymholiadau yn ymwneud ag Undeb y Myfyrwyr, cysylltwch â:

  • suopportunities@uwtsd.ac.uk

Manylion Aelodaeth

Os nad ydych wedi prynu'r aelodaeth hon yn barod, fe'ch anogir i wneud pan fyddwch yn ymuno â'r grŵp hwn. 

  • £5 - Myfyrwyr cyfredol PCyDDS
  • £8 - Pob aelod arall

Pam ddylwn i ymuno?

  • Aelodaeth Fforddiadwy: Am ddim ond £5 yn flynyddol, rydych chi'n cael gwerth blwyddyn o hwyl. Mae hynny fel talu am un tocyn i’r sinema neu ambell baned o goffi!
  • Cynhwysol a Chroesawgar: Ein nod yw darparu amgylchedd diogel a chynhwysol i bawb, waeth beth fo'u cefndir neu farn. Croeso i bawb!
  • Dysgwch rywbeth newydd neu rhannwch eich sgiliau: Mae gennym ni ddiddordeb bob amser mewn crefftau newydd, ac rydyn ni wrth ein bodd yn rhannu ein hangerdd gyda newydd-ddyfodiaid!

Cyfryngau Cymdeithasol

Cewch y wybodaeth ddiweddaraf am ein digwyddiadau a gweithgareddau trwy ein dilyn ar:

  • Facebook: I’w gadarnhau
  • Instagram: I’w gadarnhau

Digwyddiadau a Chyfarfodydd Cymdeithasol

Yr Hyn Rydym yn ei Gynnig

  • Digwyddiadau Cymdeithasol: Ymunwch â ni am de, coffi, a chrefftio.
  • Hobi Newydd: Mwynhewch fyd rhyfeddol crefftau ffibr! Nid yw un sgil byth yn ddigon!
  • Meddylgarwch a llesiant: Cymerwch seibiant o astudio a threuliwch ychydig o amser yn gwneud rhywbeth sy’n dod â phleser i chi.

Am ddim ond £5 y flwyddyn, cewch fynediad i’n holl weithgareddau a digwyddiadau. Meddyliwch amdano fel cost un tocyn sinema neu ychydig o baneidiau o goffi am flwyddyn gyfan o hwyl,

Pwyllgor

Llywydd - Lexin Jessopp (2400788)

Ysgrifennydd - Kip Williams (2400515)

Trysorydd - Mik Edmunds (2405098)