PCyDDS Pêl-droed

  • Uwtsd bucs finals bath 050325 3653

Disgrifiad

Pêl-droed

Mae darpariaeth ar gyfer Pêl-droed yn PCyDDS ar gael i holl fyfyrwyr PCyDDS.

Mae gennym dîm BUCS dynion yn cystadlu bob dydd Mercher; rydym hefyd yn cynnal sawl sesiwn flasu a sesiynau lle gallwch chi droi i fyny a chwarae trwy gydol y flwyddyn academaidd, y gallwch chi eu harchebu trwy dudalen yr UM. Rydym yn gwneud pob ymdrech i sefydlu tîm pêl-droed menywod i gystadlu yng nghynghrair BUCS y flwyddyn nesaf.

Mae gennym 2 becyn aelodaeth ar gael i fyfyrwyr allu cymryd rhan a mwynhau pêl-droed yn gymdeithasol ac yn gystadleuol.

Am ragor o wybodaeth gallwch gysylltu â Phennaeth Pêl-droed trwy e-bost Robert.thomas@uwtsd.ac.uk

Darpariaeth Pêl-droed:

Dydd Llun - 

  • Apwyntiadau Ffisiotherapi Aelodau Pêl-droed 4.00pm-6.00pm (Campws Caerfyrddin)
  • Sesiwn Ymarfer Tîm Dynion BUCS 4.30pm-6.00pm (Campws Caerfyrddin, 3G)
  • Sesiwn Gryfhau Tîm Dynion BUCS 6.00pm-7.00pm (Campws Caerfyrddin, Sied S&C)

Dydd Mawrth - 

  • Sesiwn troi i fyny a chwarae 4.00pm-5.00pm (Campws Caerfyrddin, Neuadd Dan-do)
  • Sesiwn Pêl-droed Menywod 5.00pm-6.00pm (Campws Caerfyrddin, Neuadd Dan-do)

Dydd Mercher -

  • Gêm Bêl-droed BUCS Dynion (Gartref / Oddi cartref)

Dydd Iau -

  • Apwyntiadau Ffisiotherapi Aelodau Pêl-droed 8.00pm-10.00pm (Campws Caerfyrddin)
  • Sesiwn Adferiad Nofio (Campws Caerfyrddin)

Dydd Gwener - 

  • Pêl-droed Cymysg 5-bob-ochr 8.00am-10.00am (Campws Caerfyrddin, Neuadd Dan-do)