Mae Clwb Pêl-rwyd Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant wedi'i leoli ar Gampws Caerfyrddin, ac mae ar agor i bob myfyriwr ar draws y Brifysgol.
Mae'r tîm yn cystadlu yng nghynghreiriau Chwaraeon Prifysgolion a Cholegau Prydain (BUCS) ac yn croesawu chwaraewyr o bob gallu, o ddechreuwyr i athletwyr profiadol. Cynhelir sesiynau ymarfer ar nos Lun rhwng 4 a 6pm yng Nghanolfan Chwaraeon PCyDDS, Campws Caerfyrddin. Fel arfer, caiff gemau cynghrair a chwpan BUCS eu chwarae ar brynhawn Mercher.
Anogir myfyrwyr sydd â diddordeb mewn datblygu eu sgiliau, cynrychioli'r Brifysgol, ac sy’n awyddus i fod yn rhan o dîm cefnogol i ymuno.
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â Phennaeth Pêl-rwyd, Hannah Poole ar: h.poole@uwtsd.ac.uk